Mae Boris Johnson wedi addo datgelu manylion ynghylch sut fydd pethau’n edrych yn Lloegr pan ddaw cyfyngiadau’r pandemig i ben, gan gydnabod y bydd angen “rhagofalon ychwanegol” o bosib.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n “dod yn fwy amlwg” fod brechlynnau yn gostwng nifer y marwolaethau, er bod achosion yn cynyddu yn sgil amrywiolyn Delta.

Mae’r cyfyngiadau i fod i ddod i ben yn Lloegr ar 19 Gorffennaf er mwyn “cael bywyd yr agosaf posib ag i’r hyn oedd e cyn Covid”.

Yn ôl Boris Johnson, mae e’n gynyddol hyderus fod cyfyngiadau am gael eu llacio bryd hynny.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Ysgrifennydd Iechyd newydd Sajid Javid gadarnhau’r bwriad i lacio’r cyfyngiadau, ond ni wnaeth gadarnhau y bydd hynny’n golygu cael gwared ar bob mesur.

Dychwelyd at fyd “cyn Covid”

“Dw i’n gwybod pa mor ddiamynedd yw pobol ynghylch dychwelyd at normalrwydd llwyr, fel ydw i,” meddai Boris Johnson wrth ymweld â gweithfeydd Nissan yn Sunderland heddiw (1 Gorffennaf).

“Byddaf yn manylu ar sut fydd Cam 4 yn edrych yn union mewn ychydig ddyddiau.

“Ond dw i’n meddwl mod i wedi dweud o’r blaen, byddwn ni’n trïo mynd yn ôl i fyd sydd mor agos i’r status quo, cyn Covid, â phosib.

“Ond efallai bydd rhai pethau y bydd rhaid i ni eu gwneud, rhagofalon ychwanegol y bydd rhaid i ni eu cymryd, ond byddaf yn manylu arnyn nhw.

“Mae hi’n edrych yn fwy clir fyth… mae cyflymder y rhaglen frechu wedi torri’r cysylltiad rhwng dal Covid a marwolaethau ac mae hynny’n beth anhygoel,” ychwanegodd.

“Mae hynny’n rhoi lle i ni, rydyn ni’n meddwl y bydd hi’n bosib mynd ymlaen yn ofalus, ond di-droi’n-ôl, ar yr 19fed.”

“Rhy gynnar” i osod dyddiad

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud ei bod hi’n “hen bryd” i Lywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am y broses ddatgloi.

Yn gynharach y mis hwn, gohiriodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y broses o lacio cyfyngiadau Covid Cymru am bedair wythnos mewn ymateb i gynnydd sydyn mewn achosion o’r amrywiolyn Delta.

Dywedodd ei bod hi’n “annhebygol iawn” y bydd cyfyngiadau newydd yn y dyfodol os bydd y sefyllfa’n gwaethygu, ond nad yw hynny’n amhosib.

Dydd Gwener diwethaf (25 Mehefin), dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n rhy gynnar i osod dyddiad ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, gan ddweud ei bod hi “ddim yn beth call gosod dyddiadau artiffisial” fel y rhai yn Lloegr a’r Alban.

“Rydych chi wedi clywed fi’n dweud fod achosion covid yn cynyddu, ac yn cynyddu’n sydyn,” meddai.

“Mae yna amrywiolion eraill mewn rhannau eraill o’r byd rydyn ni’n bryderus yn eu cylch.

“Does yna ddim sicrwydd y bydd pethau’n well mewn tair wythnos er rydyn ni’n parhau i fod yn obeithiol y bydden nhw.

“Dyna pam ei bod hi’n gall peidio gosod dyddiadau artiffisial, fel dw i’n eu gweld nhw, fel nad oes rhaid diystyru nhw a dechrau eto.”