Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am ddileu’r argymhelliad fod disgyblion yn gwisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth.

Er bod yr Athro Sally Holland yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno dull newydd i ysgolion ar gyfer mis Medi, mae hi wedi gofyn i’r Gweinidog Addysg rannu rhagor o fanylion am hynny cyn yr haf.

Yn ogystal, mae hi wedi gofyn iddyn nhw ddileu’r gofynion ynysu torfol, gan ddefnyddio dull mwy targedol, sydd ddim yn rhoi baich sylweddol ar arweinwyr ysgolion a cholegau, yn ei le.

Dywedodd nad yw’r cyfyngiadau sy’n wynebu pobol ifanc a phlant mewn ysgolion a cholegau yn “cydweddu o gwbl gyda’r rhyddid cymharol sy’n cael ei gynnig i oedolion”.

Tra bod oedolion yn gallu eistedd mewn tafarn gyda ffrindiau o chwe aelwyd wahanol, heb orfod gwisgo mwgwd, mae mwyafrif disgyblion uwchradd yn gorfod gwisgo mwgwd drwy’r dydd, bob dydd, wrth eistedd yn y dosbarth.

Wrth gyfeirio at effaith gofynion hunanynysu torfol ar bobol ifanc, dywedodd Sally Holland fod hynny’n dwysáu’r anfantais mae disgyblion yn ei hwynebu o ystyried eu bod nhw wedi colli dau dymor llawn o addysg eleni.

“Rheolau ddim yn cydweddu”

“Pan mae’n dod i orchudd wyneb, mae y rhain yn parhau i effeithio ar ddysgu a phrofiad addysgol pobl ifanc,” meddai Sally Holland.

“Dyw’r rheolau ddim yn cydweddu gyda’r canllawiau i grwpiau o oedolion mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ac yn creu pryder i rai disgyblion blwyddyn 6 wrth iddyn nhw ddychmygu bywyd ysgol mis Medi mewn ysgol uwchradd.

“Mae hyn er y dystiolaeth gyfyng sydd ar gael o effeithiolrwydd y mesur rheoli yma a’r dystiolaeth sydd i weld yn dangos nad yw ysgolion yn rym neu’n gatalydd dros drosglwyddiad yn y gymuned.

“Mae angen rhyddid ar ysgolion i wneud beth maen nhw’n wneud orau: dysgu a chefnogi eu dysgwyr a’u lles, a helpu plant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau ehangach bywyd.

“Dwi’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau am ddull newydd ar gyfer mis Medi, a dwi’n croesawu hyn, ond dw i wedi gofyn i’r Gweinidog rannu manylion am hyn cyn gwyliau’r haf i dawelu meddwl a rhoi eglurhad i blant, pobl ifanc a staff mewn ysgolion a cholegau.”

“Rhwystr”

“Un o’r pethau pwysig ar gyfer helpu plant ifanc i ader ar ôl y pandemig yw’r amgylchedd addysg, ond mae mygydau’n profi i fod yn rhwystr mawr i’r profiad hwnnw a llesiant cyffredinol disgyblion a staff,” meddai Laura Anne Jones, Dirprwy Weinidog Addysg y Ceidwadwyr.

“Dyw’r rheolau ddim yn cyd-fynd, mae’n ymddangos, â’r rhai mewn rhannau eraill, o’r gymdeithas a dylai gweinidogion Llafur wrando ar y Comisiynydd Plant, a’u cynghorwyr gwyddonol eu hunain sy’n dweud eu bod nhw’n gwneud mwy o niwed na da, a dileu’r gofyniad fod plant yn gwisgo mygydau yn yr ysgol ar unwaith.

“Ar y funud, rydyn ni’n gweld niferoedd syfrdanol o uchel o ddisgyblion yn cael eu gyrru adre o’r ysgol ar draws Cymru, sy’n achosi anhrefn i rieni, disgyblion, athrawon ac ysgolion.

“Ar ôl cyfnod heriol iawn mewn addysg i bobol ifanc ar draws y wlad, rhaid i weinidogion Llafur adolygu’r rheolau hunanynysu ar frys a chynnig canllawiau i athrawon cyn diwedd y tymor fel ein bod ni’n gallu cael plant yn ôl i amgylchedd ysgol gynhyrchiol a dymunol.”

“Hollol annheg” gofyn i ysgolion osod eu mesurau Covid-19 eu hunain, yn ôl Plaid Cymru

“Mae angen i fesurau sydd â’r bwriad o gadw disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yn ddiogel gael eu llywio gan ddata”

Fframwaith cenedlaethol newydd ar fesurau Covid-19 i’r sector addysg

Bydd y fframwaith yn caniatáu i leoliadau addysg gymryd agwedd fwy lleol wrth benderfynu ar fesurau diogelwch ar ôl gwyliau’r haf