Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun manwl ar gyfer llacio cyfyngiadau’r pandemig.
Hyd yn hyn, mae Mark Drakeford wedi dweud ei bod hi’n rhy gynnar i osod dyddiad ar gyfer llacio gweddill y cyfyngiadau.
Gan alw’r dyddiadau sydd wedi’u gosod gan Loegr a’r Alban yn rhai “artiffisial”, dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf ei fod e “ddim yn beth call” gosod dyddiadau fel y rhain.
Er hynny, mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod y modelu diweddaraf yn dangos fod y brechlynnau’n gweithio, a bod dau ddos yn llawn mor effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn Delta.
Dangosa’r ystadegau diweddaraf fod 26 o bobol ag achosion o Covid wedi’u cadarnhau yn yr ysbyty, 22 o bobol â Covid o bosib, a bod 38 o bobol yn gwella ar ol cael eu heintio a Covid ar 30 Mehefin.
Dyma’r niferoedd isaf ers dechrau’r pandemig, ac nid oes marwolaethau wedi’u hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 23 Mehefin.
“Methu newid gêr”
“Diolch i waith gwych y Gwasanaeth Iechyd a gwirfoddolwyr, rydyn ni wedi gwneud cynnydd anhygoel gyda’r rhaglen frechu, gan amddiffyn mwy a mwy o fywydau pob dydd,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gafael ar frechlynnau yn sydyn – tu allan i gyfyngiadau rhaglen yr Undeb Ewropeaidd – wedi caniatáu i ni lacio cyfyngiadau’n ddiogel a symud tuag at y rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau heddiw.
“Ag ystyried yr ystadegau, mae’n bwysig fod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno eu cynllun ar gyfer dod â rhyddid yn ôl a llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru i deuluoedd, ysgolion, gweithwyr a busnesau, fel rydyn ni wedi’i weld yn yr Alban a Lloegr.
“Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru’n sownd mewn meddylfryd cyfnod clo a methu newid gêr i adfer oherwydd mae’n golygu gorfod mynd i’r afael â rhai o’r materion mae’r Blaid Lafur wedi methu â mynd i’r afael â nhw dros y ddau ddegawd diwethaf.
“Yn lle trin pobol fel plant, mae Llywodraeth Cymru angen siarad â nhw fel oedolion.
“Bydd pobol yn deall nad oes yr un dyddiad fyddai gweinidogion yn ei ddewis yn dod gyda dim risg o Covid.
“Yn anffodus, ni ellir cael gwared arno ac wrth symud ymlaen bydd rhaid dysgu byw gydag e, fel rydyn ni’n ei wneud â firysau eraill.
“Ond ar ôl y cyfnod anoddaf yn ein hanes, tu hwnt i gyfnod rhyfel, mae’r diwedd mewn golwg. Felly, rydyn ni’n credu ei bod hi’n amser iawn i weinidogion Llafur roi gobaith, eglurder a’u cynllun ar gyfer dod â rhyddid yn ôl i Gymru i’r wlad.”