Bydd canolfannau brechu ledled Cymru ar agor ar gyfer apwyntiadau ‘galw i mewn’ o’r penwythnos hwn ymlaen.

Daw hyn wrth i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, alw ar bob oedolyn i gael eu brechu.

Hyd yn hyn, mae 75% o bobol dan 50 oed wedi cael eu dos cyntaf.

Gall pob unigolyn sydd dros 18 oed fynd i rai o’r canolfannau brechu heb drefnu apwyntiad o flaen llaw, ac mae Llywodraeth Cymru yn annog oedolion ifanc, yn arbennig, i fanteisio ar y cynnig.

“Annog yn daer”

“Fe ddylai pob oedolyn yng Nghymru bellach fod wedi cael cynnig y brechlyn, ond rydyn ni’n gwybod y gallai pobl fod wedi gorfod canslo eu hapwyntiadau, neu efallai eu bod wedi methu mynd iddynt, mewn rhai achosion,” meddai Eluned Morgan.

“Rydyn ni am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechlyn, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser.

“Yng Nghymru mae gennym bolisi “gadael neb ar ôl” ac mae sicrhau bod apwyntiadau galw i mewn ar gael yn ffordd arall o sicrhau bod brechiad ar gael i bob oedolyn ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt.

“Cael ein brechu yw’r ffordd orau o amddiffyn ein hunain o hyd ac mae angen i bawb barhau i gytuno i gael eu brechu a chofio nad yw un dos yn ddigon.

“Mae angen dau ddos arnom i gyd i gwblhau’r cwrs a dyma’r ffordd orau o leihau’r perygl inni gael salwch difrifol.

“Rwy’n eich annog yn daer i fanteisio ar y cyfle i gael brechiad i helpu i amddiffyn eich hunain a’ch anwyliaid ac i ddiogelu Cymru.”

“Cyflym a chyfelus”

“Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn ar draws canolfannau brechu yng Nghymru i sicrhau ei bod hi mor gyflym a chyfleus â phosibl i bobl, ac rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan a dod i gael eu brechu,” meddai Tracy Meredith, Pennaeth Gweithrediadau Profi a Brechu Torfol.

“Os ydych chi eisiau eich ail ddos yn gynharach, neu os nad ydych chi wedi cael eich dos cyntaf eto, mae’n gyfle gwych i alw heibio’r penwythnos hwn, i gael eich brechlyn a chael eich amddiffyn.”

Bydd posib i bobol dros 18 oed gael brechlyn heb apwyntiad yn y canolfannau canlynol:

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Canolfan Hamdden Casnewydd, 8:30yb – 4yp, Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf (dosys cyntaf)

Canolfan Hamdden Trecelyn, 8:30yb – 4yp, Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf  (dosys cyntaf)

Bwrdd Iechyd Besti Cadwaladr

Bydd pob Canolfan Frechu Dorfol yn brechu pobol heb apwyntiad drwy’r amser (dosys cyntaf)

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Canolfan Frechu Dorfol y Bae, 8am – 4pm bob dydd Sadwrn a Sul (dosys cyntaf)

Holme View, Y Barri – 8:30am – 7:30pm rhwng 2 a 4 Gorffennaf (dosys cyntaf)

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Bydd pob Canolfan Frechu Dorfol yn brechu pobol heb apwyntiad unrhyw bryd o 5 Gorffennaf ymlaen (dosys cyntaf)

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bydd pob lleoliad yn derbyn brechu pobol heb apwyntiad unrhyw bryd o’r wythnos hon ymlaen (dosys cyntaf ac ail)

Bwrdd Iechyd Powys

Dim posib cerdded i mewn ar hyn o bryd gan fod nifer o bobol eisiau’r brechlyn a bod y boblogaeth ar wasgar. Bydd hyn yn cael ei adolygu.

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Yr Immbulance yn Eglwys y Ddinas, 9am – 4 pm, 3 Gorffennaf yn cynnig Astra Zeneca i bobol dros 40 oed. Bydd trafnidiaeth am ddim i bobol dan 40 oed i Ganolfan Brechu Dorfol y Bae.

Ysbyty Maes y Bae, 10am – 6pm, 4 Gorffennaf (dosys cyntaf i bobol 18-39)