Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn ar 25 Mehefin.
Cafwyd hyd i Carl Chinnock, 50, mewn maes parcio ym Mhorthcawl ychydig cyn hanner nos ar 23 Mehefin ar ôl cael anaf difrifol i’w ben.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ond bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach ar 25 Mehefin.
Roedd archwiliad post mortem yn dangos ei fod wedi dioddef ymosodiad.
Cafodd dyn lleol 27 oed ei arestio nos Iau (2 Gorffennaf) ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd Christopher George, o’r Pil ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn mynd gerbron llys ynadon Caerdydd heddiw (2 Gorffennaf).
Dywed Heddlu’r De bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Rydym yn meddwl am deulu ac anwyliaid Carl sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluol arbenigol yn ystod y cyfnod hwn.
“Credwn fod Carl wedi marw o ganlyniad i ymosodiad ac rydym wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’i farwolaeth.
“Mae ein hymchwiliad yn mynd rhagddo i raddau helaeth, ac rwy’n apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth, a allai fod wedi bod yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, i gysylltu â’r heddlu – gwyddom fod Carl wedi mynd i mewn i’r maes parcio o ochr Traeth Coney.
“O’n hymholiadau, rydym hefyd yn gwybod bod pobl yng nghyffiniau’r maes parcio ychydig cyn ac ychydig ar ôl hanner nos ar y dydd Mercher hwnnw. Fy neges iddyn nhw yw cysylltu â ni ar unwaith oherwydd gallai fod ganddynt wybodaeth hanfodol.”