Mae’r Blaid Lafur wedi cadw gafael ar sedd Batley a Spen yn Sir Efrog, gan leddfu ychydig o’r pwysau sydd ar arweinydd y blaid, Syr Keir Starmer.
Roedd Kim Leadbeater wedi talu teyrnged i’w theulu a’i ffrindiau ar ôl ennill y sedd a oedd yn arfer cael ei gynrychioli gan ei chwaer Jo Cox, gafodd ei llofruddio yn 2016.
Enillodd isetholiad Batley a Spen i Lafur er gwaethaf her gref gan y Ceidwadwyr.
Cafodd 13,296 o bleidleisiau, mwyafrif o 323 dros yr ymgeisydd Torïaidd Ryan Stephenson, ar ôl cystadleuaeth chwerw.
Daeth George Galloway, a dargedodd bleidleiswyr mewn ardaloedd Llafur traddodiadol gyda’r nod o gael gwared ar Syr Keir Starmer fel arweinydd, yn drydydd.
Wrth iddi edrych ymlaen at wasanaethu fel Aelod Seneddol, dywedodd Kim Leadbeater na allai fod wedi goroesi’r pum mlynedd diwethaf heb gefnogaeth y rhai sy’n agos ati.
“Mae gormod o bobol i grybwyll yn ôl eu henw, ond rwyf am gyfeirio at fy nheulu a’m ffrindiau, na allwn fod wedi mynd drwy’r pum mlynedd diwethaf hebddynt, heb sôn am y pum wythnos diwethaf,” meddai yn ei haraith fuddugol.
“Fy rhieni anhygoel a’m partner gwych, ac rwyf am dalu teyrnged arbennig i fy nith a’m nai, alla’i ddim disgwyl i’w cofleidio cyn gynted ag y byddaf yn eu gweld”, ychwanegodd, gan gyfeirio at blant ei chwaer.
“Ac rwyf am ddiolch yn fawr iawn i holl dîm y Blaid Lafur am yr oriau, a’r amser, a’r ymrwymiad y maent wedi’i roi i’m cefnogi a’m helpu i gael y canlyniad gwych hwn heno.
“Rwy’n credu bod yr ymgyrch wedi tynnu sylw at y ffaith bod llawer i’w wneud.
“Ond rwy’n mynd i fynd i’r afael ag ef a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gynrychioli Batley a Spen i gyd fel eu Haelod Seneddol newydd.
“Rwyf wrth fy modd bod pobl Batley a Spen wedi gwrthod rhaniad ac fe wnaethant bleidleisio dros obaith.”