Mae India wedi cadarnhau bod 400,000 o bobl wedi marw o Covid-19 – roedd hanner y rhai hynny wedi marw yn ystod y ddeufis diwethaf yn unig, yn sgil yr amrywiolyn Delta sy’n heintio cannoedd ar filoedd o bobl yn ddyddiol.
Credir bod y ffigwr gafodd ei gyhoeddi heddiw (Dydd Gwener, 2 Gorffennaf) yn llawer llai na’r cyfanswm gwirioneddol. Y gwledydd sydd a’r gyfradd uchaf o farwolaethau yw’r Unol Daleithiau a Brasil.
Dywedodd y weinidogaeth iechyd yn India bod 853 o bobl wedi marw yn y 24 awr ddiwethaf gan ddod a nifer y marwolaethau ers dechrau’r pandemig i 400,312.
Bu farw’r person cyntaf o Covid-19 yn India ar 12 Mawrth y llynedd.
Mae’r wlad, sydd â phoblogaeth o 1.4 biliwn o bobl, wedi cadarnhau bod mwy na 30.4 miliwn wedi’u heintio a’r firws, gyda 46,617 o achosion newydd yn cael eu cofnodi o fewn 24 awr.
Mae achosion newydd o’r firws yn dechrau gostwng ar ôl cyrraedd mwy na 400,000 y dydd ym mis Mai.
Ond mae’r awdurdodau yn paratoi ar gyfer ton arall bosib o Covid-19 tua mis Medi ac yn trio cyflymu’r rhaglen frechu.
Mae llai na 5% o bobl India wedi cael dau ddos o’r brechlyn hyd yn hyn.