Mae ofnau bod cannoedd o bobol wedi marw wrth i dywydd poeth daro’r Unol Daleithiau a Chanada.
Eisoes mae swyddogion wedi dosbarthu dŵr i’r digartref ac wedi cymryd camau eraill wrth i’r tymheredd godi mor uchel â 46C mewn dinasoedd fel Seattle a Portland.
Bu farw 79 o bobol yn Oregon, ac yng Nghanada, dywedodd Prif Grwner British Columbia, Lisa Laingning, fod adroddiadau am o leiaf 486 o “farwolaethau sydyn ac annisgwyl” rhwng dydd Gwener a dydd Mercher diwethaf.
Yn Sir Multnomah Oregon, roedd y person hynaf i farw yn 97, tra bod yr ieuengaf yn 44.
Mae’r awdurdodau yn Washington wedi cysylltu mwy nag 20 o farwolaethau â’r gwres, ond dywedodd swyddogion fod niferoedd y meirw yn debygol o godi.
Ac yn ôl arbenigwyr, dyw’r tymheredd ddim ond yn debygol o godi yng ngorllewin y Cefnfor Tawel, ardal sydd fel arfer yn oer, glawog, gydag ambell ddiwrnod poeth a heulog.
“Rwy’n credu bod yn rhaid i’r gymuned fod yn realistig ein bod yn mynd i gael hyn fel digwyddiad mwy arferol, a bod angen i ni fod yn paratoi fel cymuned,” meddai Dr Steven Mitchell o Ganolfan Feddygol Harbwr Seattle.
“Rhaid i ni fod yn ychwanegu at ein hymateb i drychineb.”
Achoswyd y don wres yr wythnos hon gan yr hyn a ddisgrifiwyd gan feteorolegwyr fel dôm o bwysau mawr dros y gogledd-orllewin a waethygwyd gan newid hinsawdd a achoswyd gan bobol.
Rhybuddiodd gwyddonwyr bod newid hinsawdd yn gwneud tywydd eithafol yn fwy tebygol ac yn fwy dwys.