Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi rhoi sêl bendith i gynllun gwerth £30 miliwn sy’n gobeithio creu 3,000 o brentisiaethau a gwella sgiliau’r gweithlu yn rhanbarth Bae Abertawe.
Y bwriad yw creu rhaglen hyfforddi fydd yn gwella cyfleoedd pobol leol i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi sy’n talu yn dda.
“Mae ganddo ni rai pobol ifanc a rhai hŷn sy’n glyfar iawn yng Nghastell Nedd Port Talbot ac yn ennill cymwysterau ac yn gadael y fwrdeistref sirol i chwilio am waith sydd ar gael mewn mannau eraill,” meddai Nicola Pearce, Cyfarwyddwr Corfforaethol Amgylchedd ac Adfywiad Cyngor Castell Nedd Port Talbot.
“Mae yn rhaid i ni droi’r sefyllfa yna ben i waered, mae gofyn i ni greu’r sgil a meithrin talent o fewn y rhanbarth, ond mae hefyd angen sicrhau bod ganddyn nhw gyfleon i aros yn y rhanbarth.”
Bwriad yr hyn sy’n cael ei law yn Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw creu llwybr o fyd addysg a hyfforddiant i gyflogaeth mewn pum sector: digidol, adeiladu, ynni, cynhyrchu dyfeisiadau clyfar a llesiant.
Y pum sector yma sydd yn ffurfio rhan o’r Fargen Ddinesig sy’n broject gwerth £1.3 biliwn ac yn anelu at greu 9,000 o swyddi o fewn 15 mlynedd.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Cyngor Castell Nedd Port Talbot y bydd 50 o swyddi peirianneg a gweithgynhyrchu newydd yn cael eu creu mewn ffatri yng Nghastell Nedd yn rhan o’r Fargen Ddinesig.
Mae angen y cynllun i wella sgiliau, yn ôl yr awdurdodau, oherwydd bod gan y rhanbarth gyfran uwch o bobol heb gymwysterau, o gymharu gyda’r cyfartaledd cenedlaethol.
Bydd y project yn cael ei ariannu gyda £10 miliwn o arian grant y Fargen Ddinesig, £16 miliwn o’r sector gyhoeddus a £4 miliwn gan y sector breifat.
“Gwych o beth yw gweld y bydd 3,000 o brentisiaethau yn cael eu creu yn y rhanbarth,” meddai’r Cynghorydd Nigel Hunt o Blaid Cymru.
“Gobeithio yn wir y caiff Castell Nedd Port Talbot gyfran deg o’r prentisiaethau hynny ac ein bod hefyd yn cael ein cyfran deg o brojectau digidol. Rwy’n falch o weld y Cytundeb Dinesig yn symud yn ei blaen.”