Mae adroddiad ynghylch llifogydd yn y Rhondda yn codi mwy o gwestiynau nag atebion, meddai un Aelod o’r Senedd.

Fe wnaeth adroddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gadarnhau fod llifogydd yn Pentre yn y Rhondda fis Chwefror llynedd wedi eu hachosi gan “falurion coed” yn rhwystro dŵr rhag llifo trwy ddraen i ffos – a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru gafodd y bai am hyn.

Cafodd Pentre ei daro gan lifogydd bum gwaith yn 2020, gan effeithio ar dros gant a hanner o gartrefi a sawl busnes.

Yn fuan wedi’r digwyddiad cyntaf, yn ystod Storm Dennis ar 15 ac 16 Chwefror, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei bod hi’n debyg mai coed yn rhwystro draeniau achosodd y llifogydd.

Mae’r adroddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf cadarnhau hynny, ac roedd y malurion coed yn ganlyniad i dorri coed heintiedig, a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am y torri coed.

Roedd y ffos hefyd yn cael ei rheoli gan Gyngor Naturiol Cymru, ac yn perthyn i Lywodraeth Cymru.

Er hynny, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad ei bod “hi’n annhebygol” mai eu gwaith nhw’n torri coed “oedd prif achos y llifogydd”.

“Haeddu’r stori yn llawn a chywir”

Yn ôl Heledd Fychan, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yn y Senedd, does dim sicrwydd fod gwersi wedi’u dysgu ers y digwyddiad.

“Fe wnaeth Storm Dennis greu difrod i gymaint o drigolion Pentre y llynedd, ac fel cynghorydd lleol ym Mhontypridd, a welodd lifogydd hefyd, fe welais i’r torcalon i nifer o aelwydydd a busnesau â’m llygaid fy hun,” meddai.

“Maen nhw’n haeddu dim byd llai na’r stori yn llawn a chywir ynghylch yr hyn arweiniodd at y llifogydd gwaethaf yn yr ardal ers degawdau.

“Ond yr hyn sydd gennym ni yw adroddiad amheus gan y Cyngor yn rhoi’r bai yn gadarn ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Un mis ar bymtheg wedi Storm Dennis a does yna dal ddim atebolrwydd, na sicrwydd fod gwersi’n cael eu dysgu.

“Dyna pam ein bod ni angen ymchwiliad cyhoeddus tryloyw a diduedd i roi hyder i drigolion Pentre, a thrigolion yr holl gymunedau a gafodd lifogydd, fod yr awdurdodau perthnasol yn gwneud popeth yn eu gallu i atal y digwyddiadau ofnadwy hyn rhag cael eu hailadrodd.”

Galw am iawndal

Mae trigolion Pentre yn galw am iawndal gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’n ofnadwy. Rydyn ni eisiau iawndal oherwydd mae ein hyswiriant wedi cynyddu, mae e wedi dinistrio ein tai, ein strydoedd,” meddai Aysha Powell wrth y BBC.

“Dw i’n gwybod am un cymydog, roedd ei mab yn meddwl ei fod e am farw’r noson honno – mae’n ysgytwol clywed fod plant wedi mynd trwy hynny a bod rhai teuluoedd heb gael ceiniog oherwydd bod eu [cwmnïau yswiriant] yn dweud ei bod hi’n drychineb naturiol.”

“Anghytuno”

Daeth adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad ei bod “hi’n annhebygol” mai eu gwaith nhw’n torri coed “oedd prif achos y llifogydd”.

“Rydyn ni’n derbyn fod malurion coed wedi golchi o’r mynyddoedd uwchben Pentre efallai wedi cyfrannu at flocio’r ffos, a oedd hefyd yn cynnwys cryn bridd a cherrig,” meddai.

“Fodd bynnag, doedd gan gyfran o’r malurion coed ddim i’w wneud â gwaith torri coed Cyfoeth Naturiol Cymru, a chawson nhw eu golchi lawr o ganlyniad naturiol i ddigwyddiad mor eithafol.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, felly, yn anghytuno gyda chasgliad yr adroddiad [gan y cyngor] mai eu gwaith cynhaeafu oedd prif achos y llifogydd yn ystod Storm Dennis.”