Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi dweud wrth golwg360 fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “colli’r plot”.

Bydd yn trafod yr hyn mae’n ei weld fel camau nesaf datganoli mewn darlith i Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fis nesaf.

Yn ei araith, bydd yn amlinellu cynlluniau i gynnal sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Ddydd Llun (28 Mehefin) dywedodd Mark Drakeford fod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol”.

Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru yn cwyno fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fwriadol anwybyddu a dirmygu datganoli, gan ymddwyn fel mai nhw sy’n gyfrifol am lywodraethu Cymru.

Ac mewn datganiad i’r Wasg, dywedodd Mick Antoniw ei fod am weld “Cymru gref mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus”, ac eisiau sefydlu comisiwn i gasglu’r farn am sut i wireddu’r nod.

Ond sut all hynny ddigwydd, pan mae ef ei hun wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “danseilio datganoli” a “chipio pwerau” oddi wrth Lywodraeth Cymru?

“Mae hynny yn rhan o’r rhesymeg dros fynd ati i sefydlu comisiwn, ac yn gyntaf mae’n ymwneud â chael cydnabyddiaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna broblem,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.

“Mae’n ymddangos bod cael nhw i ddeall graddfa’r broblem honno yn rhwystr mawr ar hyn o bryd.

“Mae newyddiadurwyr wedi bod yn ysgrifennu am hyn fwyfwy, mae gwleidyddion, gan gynnwys rhai o’r blaid Geidwadol, wedi bod yn trafod hyn yn fwy rheolaidd.

“Ond nid yw wedi cael ei ddatrys, ac oherwydd hynny mae problemau camweithredu ar gynnydd.

“Mae hynny wedyn yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu mewn meysydd yr ydym ni eisiau gweithredu, a lle rydyn ni wedi addo i bobol ein bod ni’n bwriadu gweithredu… boed hynny ar safonau amgylcheddol, safonau bwyd ac yn y blaen.

“Felly mae yna anhyblygrwydd, ac rwyf i o’r farn bod angen holi i le’r ydan ni’n mynd pan mae’r lefel yna o anhyblygrwydd yn bodoli.

“Byddwn i’n dweud eich bod chi’n mynd at bobol Cymru a dweud: ‘Ylwch, dyma’r ydym ni’n ei wynebu, dyma’r heriau, dyma’r hyn yr ydym eisiau ei wneud, beth ydych chi’n feddwl?’”

“Newid yn anochel”

“Dw i’n meddwl bod newid yn anochel, ond dw i am i’r newid hwnnw fod yn newid blaengar,” meddai Mick Antoniw wrth drafod y berthynas rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol a Chymru.

“Dw i am iddo fod y newid mae pobol Cymru eisiau, a dyna pan dw i’n credu bod yn rhaid cael trafodaeth gyda nhw.

“Yn wreiddiol, roedd datganoli yn ymwneud â dad-ganoli pŵer [o Lundain i Gaerdydd], ac ers hynny drwy sefydlu Senedd gyda phwerau deddfwriaethol, mae holl gysyniad sofraniaeth wedi newid.

“A lle mae’r pŵer dros y sofraniaeth honno yn bodoli yn y bôn? Gyda’r bobol.

“Ac os na chawn ni gonsensws gan y bobol, byddwn ni byth yn gallu cyflawni’r newid radical dw i’n credu sydd ei angen.

“Dyna pam yr ydw i’n optimistaidd ac yn credu y gallwn ni gyflawni newid.”

Cadw’r Undeb, System Ffederal, neu Annibyniaeth?

Ond pa fath o drefn o lywodraethu y mae Mick Antoniw am ei gweld yng Nghymru?

“Hoffwn i weld newid positif, newid sy’n nodi’r ardaloedd lle mae gennym uchelgais gyffredin.

“Boed hynny mewn strwythur ffederal, yr undeb neu annibyniaeth.

“Dw i’n credu fod yno bethau sy’n gyffredin yn agendau bron pob plaid wleidyddol ac mae yno faterion allweddol y mae’n rhaid i ni gydweithio arnyn nhw, boed hynny yn ail-ddosbarthu cyfoeth, neu fasnachu rhydd neu’r mater o bolisi cyllidol.

“Ond yn sicr, does dim synnwyr mewn parhau â’r trefniadau presennol.”

Deddf y Farchnad Fewnol ddim yn “gwneud unrhyw synnwyr”

Nid yw deddf y Farchnad Fewnol yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd na chymdeithasol, yn ôl Mick Antoniw.

Mae’r Llys Apêl wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad i’w hatal rhag lansio her gyfreithiol tros Ddeddf y Farchnad Fewnol.

Fis Ebrill, fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod rhoi caniatâd i her gyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros y Ddeddf, gan ddweud bod y cais am adolygiad barnwrol “yn rhy gynnar”.

Fe wnaeth Jeremy Miles, cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru, geisio dod â her lawn i’r Uchel Lys tros y Ddeddf, gan ddadlau y gallai atal y Senedd, i bob pwrpas, rhag deddfu ar safonau bwyd neu faterion amgylcheddol.

“Mae’n benderfyniad gwleidyddol sy’n rhoi pwerau (i San Steffan) ymyrryd mewn materion yr ydym eisoes wedi penderfynu sydd wedi’u datganoli,” meddai Mick Antoniw.

“Faint o fygythiad ydi o? Wel, mae’n tanseilio rhai o swyddogaethau’r Senedd [yng Nghaerdydd].

“Mae hefyd yn mynd yn erbyn holl ethos llywodraethau datganoledig a sofraniaeth.

“A does gen i ddim amheuaeth o gwbl ei fod yn rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio am resymau gwleidyddol.

“Felly mae cyhoeddi cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru gan ddefnyddio cyllid gafodd ei addo i Gymru’n uniongyrchol yn llwyr anwybyddu a thanseilio Llywodraeth Cymru.

“Yn gyntaf, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr economaidd, cymdeithasol ac yng nghyd-destun defnydd da o arian.

“Rydym wedi cyflwyno ein holl wrthwynebiadau ac mae gennym sialens gyfreithiol oherwydd rydym hefyd yn credu ei fod wedi mynd ymhellach nac y mae ganddo hawl i wneud yn gyfansoddiadol a chyfreithiol.

“Mae’n tanseilio’r statudau datganoli a dw i ddim yn siŵr a oedd Llywodraeth San Steffan yn gwybod bod hynny yn ganlyniad posib i’w gweithredoedd.

“Bydd yna achos llys, a bydd y dadleuon hynny yn cael eu gwneud.

“Mae’n destun pryder mawr i ni y gallai Deddf y Farchnad Fewnol gael ei defnyddio i effeithio ar ein safonau bwyd, ein safonau amgylcheddol ac ati.

“Rydym eisoes wedi gweld gyda chytundeb masnach Awstralia ein gofidion yn cael eu gwireddu.

“Rydym yn gwybod mai prif uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydi ffurfio cytundeb masnach â’r Unol Daleithiau ac rydym yn pryderu am oblygiadau hynny.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi colli’r plot”  

Wrth drafod y twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru a’r rhesymau amdano, dywedodd Mick Antoniw fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “colli’r plot”.

“Dw i’n meddwl fod yna ymateb cryf wedi bod i’r hyn sy’n digwydd yn Llundain, maen nhw wedi colli’r plot.

“Maen nhw’n symud i’r dde ac yn ceisio hyrwyddo cenedlaetholdeb Anglo-Brydeinig.

“A dw i’n meddwl bod yna ymateb i gyfeiriad eu polisïau nhw.

“Felly dw i’n deall bod yna sawl rheswm pam fod pobol wedi bod yn edrych ar opsiynau eraill (ar wahân i’r Undeb) ac yn ysu am newid.”

 

Mick Antoniw i roi araith ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd

Bydd yn amlinellu cynlluniau i gynnal sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Her Gyfreithiol yn erbyn Deddf y Farchnad Fewnol: Llywodraeth Cymru’n cael apelio

Y Llys Apêl yn dweud bod yna “resymau cryf dros wrando ar yr apêl”

Mark Drakeford: “trwy ddatganoli cryf y bydd anghenion Cymru yn cael eu diwallu orau”

Ni fu’r Undeb erioed mor fregus â hyn, meddai’r Prif Weinidog wrth gyflwyno cynllun i gryfhau’r Deyrnas Unedig