Roedd dawnsiwr rhyngwladol sy’n arbenigo mewn dawnsio Gwyddeleg, tap, a bale yn falch o alw ei hun yn siaradwr Cymraeg yn y Cyfrifiad diweddaraf.

Fe wnaeth Peter Harding ddechrau dysgu Cymraeg flwyddyn yn ôl, ar ôl gadael Caerdydd yn y 1980au er mwyn ymuno â chriw sioe enwog  Riverdance.

Dysgodd Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgol, ond gadawodd y brifddinas yn 17 oed a chafodd gryn lwyddiant yn perfformio mewn gwyliau dawns a theatrau o amgylch y byd am flynyddoedd.

Ar ddechrau’r pandemig, roedd Peter Harding yn gweithio yn Las Vegas ac wedi i’r theatrau gau, daeth adre’n benderfynol o wneud y gorau o’r amser.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda SaySomethingInWelsh, ac mae e bellach yn mynychu cwrs gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o benderfyniad Peter Harding i ddysgu Cymraeg.

Ac yntau wrth ei fod â cherddoriaeth Gymreig a chasglu recordiau feinyl, roedd gwrando ar artistiaid fel Gwenno a Meic Stephens yn gwneud iddo deimlo’n agosach at adre tra’r oedd e dramor.

“Peidiwch â bod ofn”

‘‘Yn ystod y cyfnod clo, dw i wedi mwynhau cyfarfod dysgwyr eraill ar-lein,” meddai Peter Harding.

“Dw i wedi treulio cymaint o flynyddoedd yn byw oddi cartref, mae dysgu Cymraeg wedi fy ngalluogi i ddysgu mwy am y Gymru sy’n bodoli tu hwnt i Gaerdydd, heb orfod symud oddi ar fy soffa!

“Ro’n i wrth fy modd o fedru galw fy hun yn siaradwr Cymraeg yn y Cyfrifiad diweddar. Dw i’n teimlo fel siaradwr Cymraeg go-iawn a dw i’n hapus iawn am hynny.

“Mi faswn i’n annog unrhyw un i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg.

“Cofiwch ddal ati a byddwch yn amyneddgar! Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau, achos mae’n dangos eich bod yn awyddus i roi cynnig arni, a dyna’r peth pwysicaf.’’

“Defnydd gwerthfawr o’i amser”

‘‘Mae Peter yn frwdfrydig ac mor awyddus i ddysgu, mae’n bleser ei gael yn y dosbarth,” meddai Catherine Davies-Woodrow, ei diwtor.

“Dw i’n falch ei fod wedi gwneud defnydd gwerthfawr o’i amser yn ystod y cyfnod clo, gan ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i artistiaid ers i theatrau gau eu drysau.

“Mae sgiliau Cymraeg newydd Peter yn rhoi pleser iddo, a dw i’n edrych ymlaen at weld y sgiliau hynny yn datblygu dros y misoedd sydd i ddod.’’