Prifddinas Cymru  yw’r ddinas wlypaf yn y Deyrnas Unedig, gyda 96mm o law yn disgyn yno pob mis ar gyfartaledd.

Mae hyn yn cyfateb i 12 diwrnod o law’r mis, a 148 diwrnod gwlyb bob blwyddyn.

Abertawe yw’r bumed ddinas wlypaf, gyda 83.7mm o law yn disgyn pob mis ar gyfartaledd a 12 diwrnod gwlyb y mis.

Ail ddinas wlypaf y Deyrnas Unedig ydi Glasgow yn yr Alban, gyda 94mm o law yn disgyn pob mis ar gyfartaledd.

Er bod llai o law yn disgyn pob mis o’i gymharu â Chaerdydd, mae trigolion Glasgow yn profi 170 diwrnod gwlyb pob blwyddyn, sy’n fwy nag unrhyw ddinas arall yn y Deyrnas Unedig.

Yn y trydydd safle mae Huddersfield, lle mae 85.7mm o law yn disgyn pob mis ar gyfartaledd.

Mae man geni Rygbi’r Gynghrair yn gweld bron i 13 diwrnod gwlyb ar gyfartaledd bob mis, a 154 bob blwyddyn.

Yr ugain ddinas wlypaf, yn eu trefn

Caerdydd

Glasgow

Huddersfield

Plymouth

Abertawe

Belfast

Blackpool

Stockport

Cheltenham

Lerpwl

Bournemouth

Sheffield

Aberdeen

High Wycombe

Bryste

Coventry

Eastbourne

Exeter

Southampton

Hastings