Mae’r Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi rhestrau byr ar gyfer ei Seremoni Gwobrau flynyddol, sy’n gyfle i gydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud mewn cylchoedd a meithrinfeydd.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn Theatr y Werin, Aberystwyth ar 2 Hydref, yn ddibynnol ar ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Daeth y panel gwobrwyo at ei gilydd ddiwedd mis Mai i ddewis y tri uchaf ymhob un o’r naw categori, wedi i rieni enwebu meithrinfeydd, staff a gwirfoddolwyr am wobrau.

“Dysgu, tyfu a chwarae drwy’r Gymraeg”

“Ein gweledigaeth yw rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddysgu, tyfu a chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r Seremoni Gwobrau’n gyfle euraidd i ni gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad, sydd yn rhan allweddol i wireddu hyn,” meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin.

“Cafodd bawb gyfle i enwebu unigolion o Gylch Meithrin neu feithrinfa ddydd am wobr mewn naw gwahanol gategori.”

“Roedden ni’n gobeithio y byddai pobl yn manteisio ar y cyfle i enwebu cylch lleol neu feithrinfa sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac rydym wedi gwirioni ein bod wedi derbyn cannoedd o enwebiadau” ychwanegodd Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Chwarae a Dysgu Tu Allan

Cylch Meithrin Eco Tywi, Sir Gaerfyrddin

Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd

Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin

Arweinydd

Hannah Lines-Zechmann (Cylch Meithrin Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin)

Kate Jenkins (Cylch Meithrin Tedi Twt, Caerffili)

Sioned Wyn Jenkins (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)

Cynorthwy-ydd

Carys Price (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys)

Karlie Jo Davies (Cylch Meithrin Penderyn, Rhondda Cynon Taf)

Lindsay Turner (Cylch Meithrin Pontarddulais, Abertawe)

Cylch Meithrin Gorau’r De-ddwyrain

Cylch Meithrin Camau Cyntaf Llanhari, Rhondda Cynon Taf

Cylch Meithrin Evan James, Rhondda Cynon Taf

Cylch Meithrin Nant Dyrys, Rhondda Cynon Taf

Cylch Meithrin Gorau’r De-orllewin

Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro

Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys

Cylch Meithrin Tal-y-bont, Ceredigion

Cylch Meithrin Gorau’r Gogledd-orllewin

Cylch Meithrin Dolgellau, Gwynedd

Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd

Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd

Cylch Meithrin Gorau’r Gogledd-ddwyrain

Cylch Meithrin Drenewydd, Powys

Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys

Cylch Meithrin Pontrobert, Powys

Cynhwysiant, Cydraddoldeb, ac Amrywiaeth

Cylch Meithrin Myrddin, Sir Gaerfyrddin

Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion

Cylch Meithrin Y Bedol, Sir Gaerfyddin

Dewin a Doti

Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gaerfyrddin

Cylch Meithrin Mornant, Sir y Fflint

Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion

Gwirfoddolwr Gorau

Eifiona Wood (Cylch Meithrin Abersoch, Gwynedd)

Michelle Killey (Cylch Meithrin Tonyfelin, Caerffili)

Siôn Hughes (Cylch Meithrin Bwcle, Sir y Fflint)

Meithrinfa Ddydd Orau

Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin

Meithrinfa Seren Fach, Gwynedd

Meithrinfa Y Cam Cynta, Sir Gaerfyrddin

Pwyllgor gorau

Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf

Cylch Meithrin Dyffryn Banw, Powys

Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys