Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ymhlith y rhai sy’n cefnogi deddfu er mwyn ei gwneud yn anos i ladron ddwyn cŵn a’u gwerthu ymlaen am elw.

Byddai mesur yn San Steffan, sydd cael ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos nesaf, yn golygu creu bas data DNA ar gyfer cŵn er mwyn taclo’r broblem.

O gael bas data, byddai yn anoddach i ladron fedru gwerthu ci sydd wedi ei ddwyn ymlaen i berchnogion newydd.

Ers 2020, mae amcangyfrifon swyddogol yn awgrymu fod nifer sylweddol uwch o gŵn yn cael eu dwyn, wrth i’r pandemig arwain at fwy o bobol fod eisiau anifeiliaid anwes a thwf ym mhrisiau bridiau poblogaidd.

Mae’r RSPCA a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cefnogi’r mesur hefyd.

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno yn San Steffan gan Andrew Griffith, Aelod Seneddol Arundel a South Downs, ddydd Mercher nesaf (7 Gorffennaf).

Gan fod cynnydd mor sylweddol mewn lladrata cŵn, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig sefydlu Tasglu Lladratau Anifeiliaid Anwen fis Mai er mwyn mynd i’r afael â’r lladron.

“Profiad anodd iawn”

“Mae lladrad anifail anwes yn brofiad anodd iawn, a byddai cyflwyno bas data DNA cŵn yn cynyddu’r siawns o ddod o hyd iddyn nhw eto,” meddai Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Môn.

“Yn anffodus, mae troseddwyr cyfundrefnol yn lladrata cŵn nawr gan fod prisiau cŵn wedi codi felly mae hynny’n gwneud gwaith yr heddlu’n anodd ac mae’n cymryd amser.

“Byddai bas data DNA cŵn yn adnodd da i’r lluoedd allu cael mynediad ato.

“Dw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi amser i’r Bil gael ei ystyried yn San Steffan gan fod siawns dda iddo ddod yn gyfraith.”