Mae’r gwaith ar gynllun atal llifogydd sylweddol wedi ei gwblhau ym mhentref y Felinheli yng Ngwynedd.

Bydd morglawdd newydd yn gwarchod 40 eiddo yn y pentref, yn ôl Cyngor Gwynedd.

Cafodd y Cynllun Lliniaru Llifogydd gwerth £700,000, a oedd yn cynnwys adeiladu morglawdd newydd, ar gyfer ardal Glan y Môr yn y pentref ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

“Mae’n bleser gweld fod y gwaith ar y cynllun lliniaru llifogydd yn y Felinheli wedi’i gwblhau,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i’r contractwyr lleol, sef cwmni adeiladwaith OBR am eu gwaith ac i bawb arall hefyd a oedd yn rhan o’r cynllun pwysig yma.

“Mae’r cynllun yn gwarchod 36 o gartrefi a 4 busnes preifat ar Lôn Glan y Môr yn y Felinheli ac mae’r wal wedi ei chynllunio i amddiffyn rhag llifogydd 1 mewn 200 mlynedd.

“Mae ystyriaeth wedi ei roi hefyd i newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr dros y blynyddoedd i ddod.

“Gwyddom fod newid hinsawdd yn dechrau effeithio ar ein cymunedau ni fwy a mwy, ac rydym yn gweld stormydd mwy eithafol ac mae tystiolaeth yn dangos yn gryf bod lefelau môr yn codi. Fel Cyngor, rydym yn ceisio blaenoriaethu prosiectau i gadw ein trigolion ac ein cymunedau yn ddiogel.”

“Diolch”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd ac sydd hefyd yn cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd:

“Dw i’n croesawu buddsoddiad Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru tuag at gost y cynllun lliniaru llifogydd yma yn y Felinheli, sydd yn mynd i gadw ardal Glan y Môr yn y pentref yn ddiogel am hir iawn.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled, ac i’r gymuned leol am fod yn amyneddgar tra roedd y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen.

“Mae grŵp wardeniaid llifogydd lleol wedi ei sefydlu i helpu efo’r gwaith o gau gatiau llifogydd, sydd yn cynnwys 25 o wirfoddolwyr o’r pentref.”

Mae englyn gan Osian Owen, bardd lleol, wedi cael ei osod ar y wal newydd gyda lluniau oedd wedi’u gwneud gan ddisgyblion Ysgol y Felinheli a’r arlunydd Eleri Jones.