Mae Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon yn rhoi’r gorau i erlyn dau gyn-filwr am lofruddiaethau yn ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.
Ni fydd yr achos yn erbyn ‘Milwr F’ am lofruddio James Wray a William McKinney yn ystod Bloody Sunday yn Derry yn 1972 yn mynd yn ei flaen.
Yn yr un modd, mae’r achos yn erbyn ‘Milwr B’ am lofruddio Daniel Hegarty, a oedd yn 15 oed, yn Derry yng Ngorffennaf 1972 yn dod i ben hefyd.
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus (PPS) adolygu’r achosion ag ystyried y dyfarniadau diweddar wnaeth benderfynu rhoi terfyn ar achosion llys eraill yn ymwneud â llofruddiaethau’n ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd achos y Goron yn erbyn Milwyr F a B yn seiliedig ar dystiolaeth debyg i’r dystiolaeth gafodd ei dyfarnu’n “annerbyniol” yn ystod yr achos llys yn erbyn Milwyr A a C am lofruddio arweinydd yr IRA, Joe McCann.
Gan ei bod hi’n debyg y byddai’r math yma o dystiolaeth yn annerbyniol eto, penderfynodd y PPS nad oedd gobaith rhesymol o erlyn Milwyr F a B.
Cafodd teuluoedd y tri a gafodd eu llofruddio wybod am benderfyniad y PPS mewn cyfarfod preifat yn Derry heddiw (2 Gorffennaf).
“Dw i’n cydnabod fod y penderfyniadau am achosi poen pellach i’r dioddefwyr, a theuluoedd yr ymadawedig sydd wedi chwilio am gyfiawnder yn ddi-baid ers bron i 50 mlynedd gan wynebu sawl rhwystr,” meddai Stepher Herron, Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus.
“Mae’n glir i weld sut y gwnaeth digwyddiadau dinistriol 1972, pan gollodd y teuluoedd anwyliaid dieuog, achosi poen sy’n parhau i bwyso’n drwm.”
Milwr F
Roedd Milwr F wedi’i gyhuddo o lofruddio Mr Wray a Mr McKinney ar 30 Ionawr 1972, pan ddechreuodd milwyr saethu ar brotestwyr hawliau sifil yn ardal y Bogside yn Derry, gan ladd 13 o bobol.
Roedd yn wynebu cyhuddiadau o drio llofruddio Patrick O’Donnell, Joseph Friel, Joe Mahon a Michael Quinn hefyd, a chyhuddiad arall o drio llofruddio person neu bobol anhysbys ar yr un diwrnod.
Cyn penderfyniad y PPS, roedd gwrandawiad yn Llys Ynadon Derry er mwyn penderfynu a oedd digon o dystiolaeth i fynd ymlaen gyda’r achos llys.
Mae teulu Mr McKinney wedi addo herio penderfyniad y PPS yn yr Uchel Lys.
“Mae’r mater yma’n bell o fod wedi dod i ben. Byddwn ni’n parhau i ymladd,” meddai brawd William McKinney, Mickey McKinney.
Dywedodd teulu Mr Wray nad ydyn nhw’n bwriadu cyflwyno her gyfreithiol, ond eu bod nhw am gefnogi teuluoedd eraill sy’n bwriadu gwneud hynny.
Milwr B
Yn 2019, fe wnaeth y PPS gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu erlyn Milwr B am lofruddio Daniel Hegarty, ac anafu ei gefnder, Christopher Hegarty, gyda’r bwriad o’i lofruddio.
Cafodd y cefndryd eu saethu yn ystod ymdrech gan y Fyddin Brydeinig i ennill rheolaeth dros rannau o Derry oedd yn nwylo’r IRA.
Aeth Daniel a Christopher i wylio’r ymdrech, a chael eu saethu ar ôl dod ar draws milwyr yn ardal Creggan o’r ddinas yn oriau mân y bore ar 31 Gorffennaf, 1972.
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, fe wnaeth cyfreithwyr teulu Daniel Hegarty annog yr heddlu i gael datganiad newydd gan Filwr B, gan ei arestio o bosib, er mwyn i’r erlyniad barhau.
Y dystiolaeth
Roedd yr achos yn erbyn Milwr F yn ddibynnol ar ddatganiadau gan ddau filwr arall oedd ynghlwm â digwyddiadau Bloody Sunday, a gafodd eu cymryd gan yr Heddlu Milwrol Brenhinol yn 1972.
Pe bai hwnnw’n cael ei ddyfarnu’n annerbyniol ni fyddai’n bosib profi fod Milwr F yn y Bogside pan gafodd y dynion eu saethu.
Yn achos llofruddiaeth Joe McCann, arweinydd yr IRA, cafodd tystiolaeth debyg ei gwrthod gan na roddwyd hawliau dynol sylfaenol i’r milwyr.
Yn ystod yr achos hwnnw hefyd, cafodd tystiolaeth a gafodd ei roi i’r Tîm Ymchwiliadau Hanesyddol (HET) ei wrthod gan fod amheuaeth ynghylch pwrpas y tîm.
Roedd tystiolaeth roddodd Milwr B i’r HET yn 2006 yn allweddol yn yr achos yn ei erbyn.
Dyw’r datblygiadau hyn ddim yn effeithio ar yr achos yn erbyn y cyn-filwr Dennis Hutchings, sydd wedi’u gyhuddo o geisio llofruddio John Pat Cunningham yn County Tyrone yn 1974.
Bydd yr achos yn erbyn David Jonathan Holden yn parhau hefyd, wedi iddo gael ei gyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol pan gafodd Aidan McAnespie ei saethu ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn 1988.
Mae aros hefyd i weld a fydd tri achos arall sy’n ymwneud â chyn-filwyr yn cael mynd ymlaen ai peidio.