Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 570 achos newydd o Covid-19 heddiw, ond dim marwolaethau newydd.
Er bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu, mae nifer y cleifion sydd mewn ysbytai wedi gostwng i’r nifer lleiaf ers dechrau’r pandemig.
Ar hyn o bryd mae 71.1 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth, y gyfradd uchaf ers Chwefror 23.
Ers dechrau’r pandemig mae 219,296 o achosion Covid wedi bod yng Nghymru, a 5,575 o farwolaethau.
Amrywiolyn Delta yw’r prif amrywiolyn ym mhob ardal o Gymru erbyn hyn.
Dangosa’r data fod tua 72% o boblogaeth Cymru wedi cael o leiaf un dos o frechlyn Covid, a 54% wedi cael dau frechlyn.
Dros y penwythnos hwn, bydd posib i bobol gael eu brechu heb apwyntiad mewn nifer o ganolfannau brechu ar draws Cymru.
Mae’r cyfraddau ar eu huchaf yn Sir y Fflint gyda 161.4 achos i bob 100,000 person, ac mae’r gyfradd dros 100 yn Wrecsam (147.8), Sir Ddinbych (146.3), Conwy (102.4), a Gwynedd (102) – union 100 achos am bob 100,000 yw’r gyfradd yng Nghaerdydd.
Ysbytai
Dangosa ystadegau ddoe (1 Gorffennaf) fod 63% o’r achosion yn ymwneud â phobol dan 30 oed, gyda 15% o achosion yr wythnos ddiwethaf yn gysylltiedig ag ysgolion.
Ddydd Mercher (30 Mehefin), roedd yna 86 o gleifion mewn ysbytai gyda Covid, gyda’r nifer yn cynnwys rhai oedd yn disgwyl canlyniad prawf a chleifion sy’n gwella.
Erbyn hyn, mae cleifion Covid, gan gynnwys rhai sy’n gwella, yn cyfri am 1% o’r holl gleifion mewn ysbytai.
Roedd 26 o achosion Covid wedi’u cadarnhau mewn ysbytai ar draws Cymru, gyda naw yn ysbytai Caerdydd a’r Fro, a saith yn y gogledd ddydd Mercher.
Mae hyn 99% yn llai na’r nifer uchaf ym mis Ionawr, er bod y nifer ar ei isaf ar 27 Mai pan mai dim ond 7 achos o Covid oedd wedi’u cadarnahu mewn ysbytai.