Bu’r ffaith i ddyn ifanc 20 oed arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr yn help iddo ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae William Davies yn gweithio i gwmni yn Hengoed sy’n arbenigo mewn creu systemau glanhau ar gyfer goleuadau, camerâu, synwyryddion a ffenestri blaen ceir, ac mae wedi gwneud cyfraniad pwysig at y busnes sy’n masnachu yn rhyngwladol.

Bu i’r llanc o Aberdâr roi argraffydd 3D newydd ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau.

Hefyd, mae wedi bod yn gwneud gwelliannau ym maes Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant, ynghyd â rheoli prosiect i adnewyddu cantîn y gwaith a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.

Yn ôl Steve Mills, rheolwr gwaith technegol a gwelliant parhaus cwmni Kautex Textron yn Hengoed, mae William Davies yn un o’r cymeriadau mwyaf eithriadol y mae wedi dod ar eu traws yn ei chwarter canrif yn y diwydiant.

Dywed Steve Mills fod y prentis eisoes yn gweithio ar lefel peiriannydd gweithgynhyrchu sydd â gradd.

Uchelgais William Davies yw cymhwyso yn beiriannydd siartredig a dod yn gyfarwyddwr cwmni.

Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg chwe mis yn gynt na’r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd, lle’r enillodd ddwy wobr.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

“Uchafbwynt ardderchog”

“Dyma’r geirios ar y gacen i mi ac mae’n uchafbwynt ardderchog i fy mhrentisiaeth,” meddai William Davies wrth drafod ei lwyddiant.

“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau yn ffordd hanfodol o ddatblygu gweithwyr medrus er mwyn adfer yr economi yng Nghymru.

“Rhaid i mi ddiolch i fy nghyflogwr, fy nheulu a fy asesydd yn y coleg am fy nghefnogi a fy arwain trwy fy mhrentisiaeth.

“Fe benderfynais i wneud prentisiaeth gan fy mod i’n credu y byddai’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol angenrheidiol i mi i wireddu breuddwyd oes, sef bod yn beiriannydd gweithgynhyrchu, ac fe wnaeth.

“Rwy’n anelu at berffeithrwydd ac mae gwerthoedd craidd a llwyddiant fy nghwmni yn agos iawn at fy nghalon.”

Prentisiaethau yn “hollbwysig”

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol.

Cafodd y gwobrau eu trefnu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, gyda 50,360 o bobol ledled y de-ddwyrain wedi elwa o’r rhaglenni yma ers mis Mai 2016.

“Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, wrth longyfarch William Davies.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol.

“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”