Mae cais consortiwm i brynu archfarchnad Morrisons am £6.3bn wedi bod yn llwyddiannus.

Mae Fortress, Canada Pension Plan Investment Board a Koch Real Estate Investments wedi dod ynghyd i dalu 252 ceiniog am bob cyfran, yn ogystal â rhandal arbennig o ddwy geiniog.

Daw’r cytundeb ar ôl i Morrisons wrth cais arall fis diwethaf gan Clayton, Dubilier & Rice (CD&R) o Efrog Newydd fis diwethaf.

Bydd angen sêl bendith cyfranddalwyr cyn bod modd ffurfioli’r cytundeb yn derfynol.