Mae o leiaf 19 o bobol ar goll yn dilyn tirlithriad pwerus sydd wedi golchi cartrefi ymaith yn Atami.
Yn ôl yr awdurdodau, fe ddigwyddodd fore heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3) ac mae timau achub yn chwilio am y bobol sydd ar goll yn ardal Izusan.
Mae lle i gredu bod nifer o bobol wedi cael eu symud o’r ardal.
Mae’r cyfryngau wedi bod yn dangos tirlithriad pwerus ar ochr mynydd yn bwrw ac yn chwalu tai wrth i bobol yr ardal wylio a ffilmio’r digwyddiad ar eu ffonau symudol, gyda phont hefyd wedi cael ei dymchwel.
Fe fu glaw trwm ledled y wlad ers dechrau’r wythnos, gan achosi i lefelau afonydd godi’n sylweddol, yn enwedig yng nghanol Japan ac yn ardal Tokyo.
Mae disgwyl i’r lluoedd arfog ymuno â’r gwasanaeth tân a’r heddlu wrth iddyn nhw geisio achub pobol, ac mae nifer fawr o bobol wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefi yn sgil y tirlithriad.