Mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartre’r blaid yn San Steffan, yn dweud bod eu buddugoliaeth yn Batley & Spen yn “hwb” i’r Blaid Lafur.
Kim Leadbeater yw’r aelod seneddol newydd yn yr etholaeth yng Ngorllewin Swydd Efrog, a hynny yn dilyn buddugoliaeth o ddim ond 323 o bleidleisiau dros y Ceidwadwyr.
Leadbeater yw chwaer Jo Cox, y cyn-aelod seneddol a gafodd ei llofruddio ger swyddfa ei hetholaeth yno yn 2016.
Roedd yr is-etholiad yn cael ei ystyried yn bwysig fel ffordd o fesur y gefnogaeth sydd i’r Blaid Lafur ac i’r arweinydd Syr Keir Starmer yn dilyn cyfnod cythryblus yn ddiweddar.
Ond mae Nick Thomas-Symonds o’r farn y gall y canlyniad fod yn “hwb” i’r blaid wrth iddyn nhw baratoi’r maniffesto nesaf.
“Dw i’n credu ei fod yn rhoi hwb i bawb ond yn enwedig oherwydd natur yr ymgyrch,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Ro’n i yn Batley & Spen yr wythnos ddiwethaf – dw i ddim wir wedi gweld y fath ymgyrch mewn mwy nag ugain mlynedd o ymgyrchu.
“Roedd y rhaniadau yn yr ymgyrch honno’n ofnadwy.”
Ond mae’n dweud bod y canlyniad yn addawol ar gyfer y dyfodol serch hynny.
“Yr hyn dw i’n ei weld yn y lle cyntaf yw amlinellu blaenoriaethau clir nawr – felly, er enghraifft, bydden ni wedi cymryd dull gwahanol iawn i’r rhaglen dal i fyny i blant, y rhai sydd wedi colli allan ar addysg yn Lloegr, bydden ni wedi buddsoddi’r £15bn yna,” meddai.
“Bydden ni wedi bod yn brwydro dros hawliau’r gweithwyr, bydden ni’n rhoi terfyn ar yr arfer ofnadwy o ddiswyddo ac ailgyflogi a bydden ni’n canolbwyntio ar ddiogelwch cymunedol – fydden ni ddim yn gwastraffu £283m ar gwch di-bwrpas, bydden ni’n gwario’r arian hwnnw ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n bla mewn cymunedau ledled y wlad.
“Felly rydych chi’n gweld llinellau’r rhaniadau’n glir iawn nawr ac, wrth gwrs, yr hyn fyddwn ni’n ei wneud drwy ein hadolygiad polisi yw amlinellu’n glir iawn yn yr etholiad nesaf sut y bydd Llafur yn gwneud bywydau pobol yn well.”