Mae Marine Le Pen, arweinydd plaid Rassemblement National, dan y lach am gymedroli’r blaid a’i gwneud yn llai eithafol nag y bu o dan arweiniad ei thad, Jean-Marie Le Pen pan gâi ei galw’n Front National.

Mae lleisiau o’r tu fewn i’r blaid a’r tu allan yn poeni bod y blaid yn colli ei helfennau radical ac y gallai hynny gostio’n ddrud iddyn nhw yn etholiad arlywyddol Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Cafodd y blaid ganlyniadau siomedig yn etholiadau rhanbarthol y wlad yr wythnos ddiwethaf.

Mae Marine Le Pen yn arddel safbwyntiau gwrthfewnfudwyr ac mae’r fath safbwyntiau’n debygol o arwain at siom i’r blaid wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer digwyddiad deuddydd yn Perpignan.

Yn ôl beirniaid, mae’r blaid bellach yn llai gwrthsefydliad ac anarchaidd wrth i’r arweinydd, oedd wedi gwahardd ei thad rhag bod yn aelod, geisio ei symud yn nes at y tir canol er mwyn ehangu ei hapêl.

Mae hi wedi bod yn ymdrechu’n gyson i ddileu agweddau hiliol a gwrth-Semitaidd o fewn y blaid a gafodd ei sefydlu yn 1972 ac a oedd o dan arweiniad ei thad am bedwar degawd.

Yn ôl Jean-Marie Le Pen, mae’r newidiadau sydd wedi’u cyflwyno gan ei ferch yn “gamgymeriad gwleidyddol” ac yn debygol o arwain at “fethiant neu fethiannau etholiadol” ar drothwy’r etholiadau rhanbarthol ac arlywyddol sydd i ddod.

Beth nesaf i’r blaid?

Roedd gwahardd Jean-Marie Le Pen, sydd bellach yn 93 oed, yn rhan o ymdrechion ei ferch i weddnewid y blaid ac i’w gwneud yn fwy parchus.

Ond mae ei feirniadaeth yn nodweddiadol o’r agweddau mwy eithafol o fewn y blaid sy’n poeni o dan y dyfodol wrth iddi newid cyfeiriad a chyflwyno negeseuon cymysg.

Nod yr arweinydd yn yr etholiadau arlywyddol yw mynd un cam ymhellach na’r tro diwethaf ar ôl iddi golli yn erbyn Emmanuel Macron, ymgeisydd oedd yn nes at y canol.

Ond roedd siom i’r 12 o ymgeiswyr rhanbarthol yr wythnos ddiwethaf – gyda rhai yn fwy eithafol na’i gilydd – wrth i niferoedd uchel o bobol (66%) fethu â bwrw eu pleidlais.

Roedd y polau’n awgrymu y byddai’r blaid yn ennill mewn o leiaf un etholiad, ond fe wnaethon nhw golli tua thraean o’u cynghorwyr rhanbarthol, sy’n debygol o fod yn newyddion drwg ar drothwy’r etholiadau arlywyddol ymhen blwyddyn.

Mae nifer o gynrychiolwyr lleol wedi ymddiswyddo yn sgil y canlyniadau.