Mae dyn 25 oed o Abertawe wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 60 oed yn Llundain nos Iau (Gorffennaf 1).

Mae Tedi Fanta Hagos o ardal Ravenhill hefyd yn wynebu cyhuddiad o fod ag arf yn ei feddiant.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Oxford Circus toc cyn 8 o’r gloch nos Iau yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Cafwyd hyd i’r dyn ag anafiadau ar ôl iddo fe gael ei drywanu, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Dydy enw’r dyn fu farw ddim wedi cael ei gyhoeddi eto, ond mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth gan blismyn o Heddlu Llundain.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.