Gallai caniatáu i bobol sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn Covid-19 beidio â mynd i gwarantîn achosi atgasedd, yn ôl ymgynghorydd gwyddonol.

Yn ôl yr Athro Robert West, sy’n aelod o grŵp SPI-B sy’n cynghori pwyllgor Sage Llywodraeth Prydain, mae anfanteision y fath gynllun yn fwy na’r manteision posib.

Daw hyn wrth i Downing Street gadarnhau bod Llywodraeth Prydain yn ystyried llacio’r rheol ar gwarantîn i bobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 ac sy’n dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r feirws.

Gallai’r cynllun gael sêl bendith gweinidogion ddydd Llun (Gorffennaf 5).

“Y broblem fwyaf difrifol yw, pe bai gyda chi sefyllfa lle, os nad yw pawb hyd yn oed wedi cael cynnig brechlyn, yna mae gyda chi annhegwch enfawr eisoes,” meddai wrth Times Radio.

“Pan gewch chi annhegwch mewn sefyllfaoedd fel hyn, rydych chi’n cael atgasedd a phan gewch chi atgasedd, fe gewch chi ddiffyg cydymffurfio.”

Nid pawb sy’n cytuno

Ond mae arbenigwyr eraill yn amau sylwadau’r Athro Robert West, ac maen nhw’n dweud y byddai’n “berffaith iawn” i roi mwy o ryddid i’r rhai sydd wedi cael dau ddos.

Yn ôl Dr Bharat Pankhania o Brifysgol Caerwysg, mae brechlynnau’n torri’r cysyslltiad rhwng achosion, triniaeth yn yr ysbyty a marwolaethau.

Mae hynny, meddai, yn golygu bod modd “dechrau meddwl am fesurau datgyplu eraill, megis dileu’r angen i fynd i gwarantîn ar ôl imiwneiddio’n llawn”.

Mae’r Athro Christophe Fraser, sydd wedi bod yn cynghori’r Adran Iechyd ar olrhain cysylltiadau, dylid cyflwyno mesur “hanner ffordd”, sef rhoi profion dyddiol i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn yn hytrach na gorfod mynd i gwarantîn.