Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi yr wythnos hon fod ei lywodraeth yn llacio’r rheidrwydd yn Lloegr i wisgo mygydau a chadw pellter o Orffennaf 19.

Mae’r dyddiad hwnnw wedi bod ym meddyliau’r Saeson fel “diwrnod rhyddid” ers rhai wythnosau bellach.

Mae lle i gredu y bydd y prif weinidog yn rhoi diweddariad yr wythnos hon ac yn cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau hyn yn dod i ben ar y dyddiad dan sylw.

Daw hyn wrth i Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan sydd â chyfrifoldeb am iechyd yn Lloegr yn unig, ddweud bod yna fanteision i ddirwyn y cyfyngiadau i ben.

Yn ôl y Sunday Times, dewis unigol fydd gwisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus a fydd dim rhaid i bobol gadw pellter o fetr oddi wrth ei gilydd mewn lleoliadau lletygarwch, sy’n golygu hefyd y bydd cwsmeriaid yn gallu mynd yn ôl at y bar heb ddibynnu ar wasanaeth gweini wrth fyrddau.

Bydd digwyddiadau torfol hefyd yn gallu cael eu cynnal eto, meddai’r papur newydd.

Yn ôl y Sunday Express, mae disgwyl canlyniadau arolwg gweithgor o’r defnydd o ‘basport’ brechu a dyfodol cadw pellter yr wythnos hon.

Ystyried dileu cwarantîn

Yn y cyfamser, mae Downing Street wedi cadarnhau bod y llywodraeth hefyd yn “ystyried” dileu’r angen i bobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 fynd i gwarantîn.

Ond mae ysbytai yn rhybuddio na fydd hynny’n lleddfu’r pwysau arnyn nhw.

Mae cwarantîn yn rhan o’r mesurau olrhain cysylltiadau, ac mae’r rheiny hefyd yn cael effaith sylweddol ar fusnesau wrth i’w staff orfod hunanynysu ar ôl derbyn negeseuon drwy ap y Gwasanaeth Iechyd – er eu bod nhw, mewn rhai achosion, wedi cael prawf negyddol ar ôl cynnal profion cyflym.

Ar ôl Gorffennaf 19, does dim disgwyl i’r cyhoedd orfod sganio cod QR i gael mynediad i fariau, bwytai a lleoliadau hamdden eraill, gan gynnwys amgueddfeydd.

Er bod Downing Street yn cydnabod y gallai llacio’r cyfyngiadau arwain at ragor o achosion, maen nhw’n dweud y bydd y rhaglen frechu yn sicrhau na fydd y Gwasanaeth Iechyd dan ragor o bwysau.