Fe fydd dyn 25 oed o Abertawe sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 60 oed yn Llundain yn mynd gerbron llys yr Old Bailey ddydd Mawrth (Gorffennaf 6).

Cafodd Stephen Dempsey, 60, ei drywanu yn ardal Oxford Circus ddydd Iau (Gorffennaf 1).

Mae Tedi Fanta, sydd heb gyfeiriad parhaol ond a fu’n byw yn Stryd Elgin yn Abertawe yn fwyaf diweddar, wedi’i gyhuddo o lofruddio ac o fod â chyllell yn ei feddiant.

Aeth e gerbron ynadon Westminster ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3) i wynebu’r cyhuddiadau, ac fe gafodd e gymorth cyfieithydd yn ystod y gwrandawiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad cyntaf yn yr Old Bailey.

Cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 8 o’r gloch nos Iau (Gorffennaf 1), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu yn Oxford Circus.

Aethon nhw yno gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans a’r Ambiwlans Awyr a dod o hyd i ddyn 60 oed ag anafiadau.

Cafodd Stephen Dempsey ei gludo i’r ysbyty lle bu farw, ac mae ei deulu’n cael cefnogaeth gan yr heddlu.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal maes o law.

Mae Heddlu Llundain yn apelio am wybodaeth gan ddau ddyn oedd yn yr ardal ar fyrddau sglefrio ar adeg yr ymosodiad, ac maen nhw’n awyddus i siarad â nhw fel tystion.