Mae Robert Jenrick, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, yn dweud ei fod e am weld y Deyrnas Unedig “yn symud fel un” wrth lacio cyfyngiadau Covid-19, ond mae’n cydnabod fod y darlun yn wahanol yn y pedair gwlad.

Pan gafodd ei holi ar raglen Andrew Marr ar y BBC a fyddai Cymru a’r Alban yn dilyn esiampl Lloegr drwy lacio’r cyfyngiadau ar Orffennaf 19, fel sy’n cael ei adrodd yn eang ar hyn o bryd, dywedodd Jenrick, “Dw i ddim yn gwybod”.

“Hoffem ni pe bai’r Undeb gyfan yn symud fel un,” meddai.

“Rydyn ni am gydweithio â’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i geisio cydlynu cymaint â phosib.

“Mae achosion ychydig yn wahanol ym mhob un o’r pedair gwlad ond yn sicr yn Lloegr, ein safbwynt yw fod pethau’n edrych yn bositif ar gyfer Gorffennaf 19.”

Dim cwarantîn ar ôl dau ddos o frechlyn?

Wrth drafod a fydd rhaid i bobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 fynd i gwarantîn wrth deithio i wledydd ar restr oren Llywodraeth Prydain, dywed Robert Jenrick fod y llywodraeth yn “dal i edrych ar y data”.

“Ie, ein nod yw y dylai’r rhai sydd wedi’u brechu ddwywaith allu teithio i wledydd ar y rhestr oren cyn gynted â phosib, gan gynnwys ar wyliau.”

Disgwyl i’r rheol ar wisgo mygydau a chadw pellter ddod i ben yn Lloegr ar Orffennaf 19

Adroddiadau’n awgrymu y bydd Boris Johnson yn amlinellu’r llacio hyn yn ei ddiweddariad yr wythnos hon