Mae timau achub wedi dod o hyd i bedwar o gyrff yn dilyn y tân mwyaf dinistriol erioed ar ynys Cyprus.

Cafwyd hyd i’r cyrff ger pentref Odou ger mynyddoedd Troodos.

Mae lle i gredu mai cyrff pedwar o ddynion o’r Aifft ydyn nhw, gan eu bod nhw wedi bod ar goll a’r awdurdodau’n ceisio dod o hyd iddyn nhw.

Yn ôl yr Arlywydd Nicos Anastasiades, mae’r tân yn “drasiedi ddi-gynsail” ar wahân i ryfel 1974.

Yn dilyn y tân, fe fu’n rhaid i bobol adael o leiaf wyth o bentrefi mynyddig ar ôl i gartrefi gael eu dinistrio a thros 20 milltir sgwâr o dir gael ei losgi.

Mae trigolion lleol wedi beirniadu ymateb araf yr awdurdodau i ddau dân mawr sy’n llosgi rhwng pentrefi Odou a Vavatsinia, ond mae’r awdurdodau’n “dawel optimistaidd” y byddan nhw’n llwyddo i’w diffodd.

Yn ôl yr arlywydd, mae’r tanau dan reolaeth erbyn hyn ond mae pryderon y gallen nhw losgi’n waeth eto pe bai’r gwynt yn codi.

Mae 36 o bobol sydd wedi gadael eu cartrefi wedi cael lloches mewn gwestai yn y brifddinas Nicosia am y tro, ac mae bwyd a dŵr yn cael eu rhoi i drigolion pentref Melini.

Mae tua 70 o injanau, saith peiriant chwalu adeiladau a deg o danceri dŵr yn ardal y tân, ac mae gwirfoddolwyr yn helpu’r gwasanaethau brys.

Mae awdurdodau o nifer o wledydd cyfagos hefyd wedi’u hanfon i’w helpu.

Yn y cyfamser, mae dyn 67 oed yn wynebu cyhuddiadau o gynnau tân bwriadol, ac mae e wedi’i gadw yn y ddalfa am wyth diwrnod wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.