Mae’r SNP wedi croesawu sylwadau Carwyn Jones, cyn-brif weinidog Cymru, ar ôl iddo fe alw Sajid Javid yn “haerllug” ar ôl dweud na fyddai’n caniatáu refferendwm annibyniaeth arall i’r Alban pe bai’n dod yn brif weinidog Prydain.

Yn ôl Carwyn Jones, oedd yn brif weinidog ar Gymru rhwng 2009 a 2018, mae gan bobol yr Alban “bob hawl” i gynnal ail refferendwm yn dilyn yr un aflwyddiannus yn 2014 os ydyn nhw’n cefnogi plaid sy’n galw am annibyniaeth.

Er ei fod e’n dweud ei fod yntau’n ffafrio mwy o ddatganoli yn hytrach nag annibyniaeth, mae’n dweud nad oes gan Sajid Javid yr hawl i atal pleidlais arall.

“A oes ganddo fe syniad pa mor haerllug mae e’n swnio?” meddai Carwyn Jones am Sajid Javid ar Twitter.

“Roedd gan bobol y Deyrnas Unedig bob hawl i gynnal refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae gan bobol yr Alban, a Chymru o ran hynny, bob hawl i gynnal refferendwm ar annibyniaeth os ydyn nhw’n cefnogi plaid sy’n galw amdani.

“Yn 2015, cafodd David Cameron ei ethol ag addewid i gynnal refferendwm Undeb Ewropeaidd, ac fe wnaeth e.

“Os yw plaid yn cael eu hethol i lywodraeth yn yr Alban neu Gymru ag addewid tebyg, rhaid bod yna’r un egwyddorion.

“Mae ganddo fe bob hawl i ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth ond nid i atal pleidlais.

“Rhaid dweud bod sylwadau Sajid Javid wedi fy ngwylltio, a dw i’n gredwr mawr mewn datganoli cryfach ac ateb mwy ffederal i’r Deyrnas Unedig nag annibyniaeth.”

Ymateb yr SNP

“Rwy’n croesawu cefnogaeth Carwyn Jones i hawliau democrataidd yr Alban i gynnal refferendwm annibyniaeth – ac yn annog gweddill y Blaid Lafur i ymuno â ni i sefyll i fyny i’r Torïaid,” meddai Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan.

“Nid mater i’r Blaid Dorïaid yw gorfodi telerau ein dyfodol a datgan yn haerllug na fydden nhw’n “caniatáu” i bobol yr Alban gynnal refferendwm.”

Daw hyn ar ôl i’r Mesur Refferenda (Yr Alban) gael ei gyflwyno yn Holyrood yr wythnos hon.

Mae’n amlinellu rheolau a rheoliadau unrhyw bleidlais yn y dyfodol.

Ond mae Ceidwadwyr yr Alban yn cyhuddo Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, o fanteisio ar ganlyniadau’r Undeb Ewropeaidd i “ddyfeisio” yr achos tros ail refferendwm annibyniaeth.