Mae Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, yn dweud y bydd ceisio dod ag anghydfod rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau tros awyrennau i ben, a sefydlu cytundeb masnach ag Awstralia o fudd i Gymru.

Daw ei sylwadau wrth siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC ar ymweliad â phencadlys Airbus yn y gogledd, safle sy’n debygol o elwa pe bai modd dod i gytundeb â’r Unol Daleithiau.

Mae’r anghydfod, sydd wedi para 17 o flynyddoedd, yn ymwneud â dileu “tariffau dial” a gafodd eu cyflwyno ar ystod o nwyddau.

Mae safle Airbus ym Mrychdyn yn cyflogi 5,000 o weithwyr, ac mae Liz Truss yn dweud y byddai datrys yr anghydfod hirdymor yn golygu “mwy o swyddi a chyfleoedd yng Nghymru”.

“[Mae’n golygu] swyddi o safon uchel a thwf yn y dyfodol i’r diwydiant, ac rydyn ni newydd gael y newyddion da fod 70 yn rhagor o awyrennau wedi’u harchebu,” meddai.

“Bydd hynny’n dod â mwy o fusnes i’r ffatri yma ac wrth gwrs, mae hynny am nad oes yna’r tariffau hynny ragor yn cael eu codi ar yr adenydd.”

Cytundeb amaeth ag Awstralia

Wrth ymateb i bryderon ffermwyr yng Nghymru am effaith cytundeb masnach ag Awstralia o ran allforion, mae Liz Truss yn dweud y byddai cytundeb o’r fath yn cynnig “cyfleoedd enfawr” i gig oen a chig eidion Cymreig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i ddod i gytundebau masnach rydd â gwledydd eraill er mwyn dileu neu ostwng tariffau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r diwydiant amaeth yn ofni y bydd hynny’n eu niweidio yma yng Nghymru wrth i brisiau ar gig wedi’i allforio ostwng er mwyn bod yn gystadleuol â chig sy’n cael ei gynhyrchu yma, gan arwain at fwy o gystadleuaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r tariff ar gig o Awstralia yn golygu prisiau uwch na chig sy’n cael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain.

Fel rhan o’r cytundeb, byddai cwotâu ar fasnach heb dreth yn cael eu dileu dros gyfnod o 15 o flynyddoedd, ac mae’r diwydiant amaeth yn poeni am ddyfodol busnesau yng Nghymru.

“Dw i’n credu bod yna gyfleoedd enfawr i gig oen a chig eidion Cymreig,” meddai Liz Truss, wrth ymateb i’r pryderon.

“Dw i’n credu y dylen ni fod yn falch o’r cynnyrch rydyn ni’n ei gynhyrchu – mae cig oen Cymreig ymhlith y gorau yn y byd, yn fy marn i, a does gennym ni ddim byd i’w ofni o agor i fyny i’r cyfleoedd hynny.

“Mewn gwirionedd, dw i’n credu bod gennym ni gryn dipyn i elwa ohono.

“Mae dyfodol cig oen Cymreig yn bositif iawn.

“Mae’n gynnyrch mae pobol eisiau ei brynu, rydyn ni’n gweld y galw’n cynyddu ledled y byd a dw i’n credu y byddwn ni’n dal ein tir.”

Cytundeb Awstralia am effeithio’n “anghymesur” ar Gymru a’r Alban

“Os yw’r cytundeb yn ddinistriol i amaeth y Deyrnas Unedig, mae e dipyn mwy dinistriol i amaeth Cymru a’r Alban,” yn ôl cyn-Brif Economegydd yr NFU

Protest yn erbyn telerau cytundeb masnach arfaethedig y DU ag Awstralia

Trefnwyd y brotest yn sgil ofnau yr effaith y bydd y fargen fasnach yn ei chael ar amaethyddiaeth lleol, sy’n rhan bwysig o economi Sir Drefaldwyn