Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Gareth Pierce, cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi marw’n 68 oed.

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi cadarnhau iddo gael ei daro’n wael ar ôl bod ar daith gerdded ym mynyddoedd yr Aran.

Yn wreiddiol o Ddolgellau ond yn byw yn Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, roedd yn brif weithredwr Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru cyn ymddeol yn 2018, cyn dod yn gadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn aelod o’r panel sy’n adolygu cyflogau athrawon yng Nghymru.

Bu hefyd yn uwch reolwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac yn ddarlithydd cyswllt gyda’r Brifysgol Agored ac yn Bennaeth Adran Fathemateg Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn y gorffennol.

Treuliodd gyfnod hefyd yn ystadegydd yn y sectorau tai ac iechyd, ac fe fu’n ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg.

Y tu allan i’w waith, roedd yn fynyddwr brwd ac yn aelod o Glwb Mynydda Cymru, yn ogystal â bod yn gadeirydd pwyllgor cyfarwyddwyr Cyngor Mynydda Prydain.

Mae’n gadael gwraig, Lynwen, a dau o feibion, Gwyn a Siôn.

‘Cyfraniad aruthrol i’r Coleg’

“Mae’r newyddion am farwolaeth sydyn Cadeirydd Bwrdd y Coleg, Gareth Pierce, wedi ein tristhau’n ddirfawr,” meddai Dr Ioan Matthews.

“Ar ran staff ac aelodau Bwrdd y Coleg, hoffwn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at wraig Gareth, Lynwen, a’i feibion, Gwyn a Siôn, yn eu colled.

“Gwnaeth Gareth gyfraniad aruthrol i’r Coleg, yn enwedig dros y deunaw mis diwethaf a braint oedd ei adnabod. Roedd yn ŵr bonheddig a deallus a byddwn yn gweld eisiau ei gyngor a’i arweiniad doeth.”

Wrth dalu ei deyrnged ei hun iddo, dywedodd Leighton Andrews, cyn-Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, ei fod yn “flin iawn” o glywed am ei golli.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud iddyn nhw gael eu “hysgwyd” gan ei farwolaeth.

“Fe gawson ni’r fraint o gydweithio sawl tro ar faterion addysg Gymraeg,” meddai’r Gymdeithas ar Twitter.

“Dyn egwyddorol a charedig oedd yn cyfrannu cymaint mewn ffordd hollol ddi-ffws.

“Bydd Cymru’n dlotach heb ei egni.”

‘Aelod poblogaidd dros ben’ o Glwb Mynydda Cymru

“Roedd Gareth yn aelod brwdfrydig o Glwb Mynydda Cymru ers ei sefydlu yn 1979 ac yn gerddwr rheolaidd ar deithiau’r clwb ar hyd y blynyddoedd ac felly’n fynyddwr profiadol iawn,” meddai Eryl Owain o Glwb Mynydda Cymru wrth golwg360.

Dywed ei fod yn “aelod poblogaidd dros ben, a brwdfrydedd heintus yn rhan o’i gymeriad – wrth fynydda neu unrhyw orchwyl arall y byddai’n ymgymryd â hi”.

Roedd yn un o griw oedd wedi bod yn cerdded o Lanuwchllyn i Ddolgellau, gan ddilyn ôl traed Ioan Bowen Rees hanner canrif yn ôl, meddai.

“Roeddem prin chwarter ffordd ar hyd taith hir ddoe o Lanuwchllyn fyddai’n cynnwys y ddwy Aran, Glasgwm, (Bwlch Oerddrws), Waun Oer, (Bwlch Llyn Bach / Tal-y-llyn), Mynydd Moel a Chadair Idris cyn gorffen yn Nolgellau.

“Dilyn ôl traed Ioan Bowen Rees (disgrifad ganddo yn ei gyfrol MYNYDDA) a wnaeth y daith hanner canrif yn ôl.

“Roedd Gareth yn edrych ymlaen yn fawr at ail-wneud taith un o’i arwyr ac yn llawn hwyliau.

“Wedi ymddeol o’i swydd fel Prif Weithredwr CBAC, etholwyd ef yn Gadeirydd Bwrdd Rheolwyr y British Mountaineering Council (dros Gymru a Lloegr) – sy’n dystiolaeth i’r parch oedd iddo yn ehangach na Chymru.”

Dywed fod cyfeillion yn y clwb yn ei ddisgrifio fel “dyn arbennig iawn, cyfaill o’r iawn ryw, sgwrsiwr diddan a phob amser yn hwyl cael bod yn ei gwmni”.

Teyrnged gan gydweithiwr

“Braint oedd cael cydweithio gyda Gareth yn CBAC am 8 mlynedd,” meddai Derec Stockley, fu’n cydweithio â Gareth Pierce yn CBAC, wrth ymateb i’r newyddion ar Twitter.

“Ei ddeallusrwydd anhygoel oedd yn taro dyn gyntaf, ond wedyn roedd ei natur diwylliedig a hawddgar yn dod i’r fei!

“Heddwch i’w lwch a phob cydymdeimlad â Lynwen a’r teulu.”