Ar ben-blwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 73 oed, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi derbyn y ‘George Cross’.

Dydy sefydliadau ddim fel arfer yn derbyn yr anrhydedd, sydd wedi’i neilltuo ar gyfer unigolion sy’n dangos dewrder wrth achub bywydau.

Ond fe ddaw yn sgil ymdrechion gweithwyr iechyd a gofal yn ystod y pandemig Covid-19.

Fe wnaeth y pwyllgor sy’n dyfarnu’r wobr argymell wrth y prif weinidog Boris Johnson y dylai’r Gwasanaeth Iechyd fod yn gymwys eleni, ac fe gafodd trafodaethau eu cynnal â phrif weinidogion y llywodraethau datganoledig er mwyn rhoi’r wobr i bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Roedd gan Gymru ran allweddol wrth sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd, gydag Aneurin Bevan, Aelod Seneddol Glyn Ebwy, yn Ysgrifennydd Iechyd San Steffan adeg ei sefydlu ac roedd e’n gryf o’r farn y dylai triniaethau iechyd fod ar gael yn rhad ac am ddim yn y lle cyntaf.

“Mae’r wobr hon nid yn unig yn cydnabod y rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth heddiw, ond hefyd bawb sydd wedi gweithio yn y sefydliad amhrisiadwy hwn dros yr holl flynyddoedd ers ei greu,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae’n anodd mynegi pa mor ddiolchgar ydyn ni i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am bopeth y mae wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, gan fynd yr ail filltir i’n trin, gofalu amdanom a’n cefnogi.

“Arwydd bach yw’r wobr hon o’n gwerthfawrogiad am eu gwasanaeth arwrol a pha mor ddyledus ydyn ni iddyn nhw am eu gwaith.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r pandemig drosodd eto ac mae llawer o heriau o’n blaenau o hyd, ond os ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth dros y 18 mis diwethaf, y peth hwnnw yw bod nerth cymeriad, calon a dygnwch y Gwasanaeth Iechyd yn ddiamheuol. Rydyn ni’n eithriadol o ffodus bod gennym wasanaeth o’r fath.”

Haeddu canmoliaeth

Yn ôl Andrew Goodall, prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae gweithwyr iechyd yn haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion i gadw pobol yn ddiogel yn ystod y pandemig.

“Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru wedi dangos gwydnwch, angerdd, proffesiynoldeb ac ymroddiad drwy gydol un o heriau mwyaf ein hoes,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yno i ni a’n hanwyliaid pan nad oedd modd i neb arall fod yno, gan ysgwyddo beichiau corfforol ac emosiynol enfawr.

“Drwy gydol y cyfnod anodd diweddar, rydyn ni wedi dangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith drwy guro ein dwylo ar garreg drws ac arddangos yr enfys yn ein ffenestri. Rwy’n gobeithio mai effaith hirdymor y pandemig yw y byddwn yn trysori’r Gwasanaeth Iechyd a’i staff yn fwy fyth yn y dyfodol.

“Mae’r wobr heddiw’n deyrnged addas i staff y Gwasanaeth, ond rwy’n gwybod y byddai’r rhai sy’n gweithio ynddo yn falch o ymuno â mi wrth gydnabod cyfraniad pawb sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd hefyd.

“Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol, gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr sydd wedi camu ymlaen pan oedd eu hangen. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y cyhoedd sydd wedi aberthu cymaint ar hyd y ffordd. Mae’r ymateb wedi bod yn un ar y cyd rhwng pawb.”

Plaid Cymru’n ceisio cyflogau teg i weithwyr iechyd

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau’r arolwg cyflogau