Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau eu harolwg o gyflogau’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywed Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae “arnom ein bywydau” i weithwyr iechyd yn sgil eu gwaith yn ystod ymlediad Covid-19, ac mae’n rhaid eu gwobrwyo nhw am y gwaith hwnnw drwy roi “mwy na dymuniadau da” iddyn nhw.

Dydy Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddim am weld cap o 1% ar gyflogau, fel sydd wedi’i awgrymu ar gyfer gweithwyr iechyd yn Lloegr, ac mae hi’n dweud bod gan y llywodraeth “ddyletswydd” i’w gwobrwyo nhw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedden nhw am ei gyhoeddi cyn diwedd mis diwethaf.

Ond dydy’r adroddiad sy’n amlinellu argymhellion yr arolwg ddim wedi’i gyhoeddi o hyd.

Daw hyn ar ôl i naw o undebau llafur anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ar Fehefin 23 yn galw am “godiad cyflog brys a sylweddol” er mwyn gwobrwyo gweithwyr iechyd a’u hatal nhw rhag gadael eu swyddi.

Mae meddygon yn Lloegr eisoes yn bygwth streicio os nad ydyn nhw’n cael cynnig gwell na’r 1% o godiad cyflog mae Llywodraeth Prydain wedi’i gynnig iddyn nhw.

Effaith ar hwyliau a iechyd gweithwyr

“Mi wnaeth ein gweithwyr iechyd ein cadw ni’n ddiogel yn ystod y pandemig – yn wir, mae arnom ein bywydau iddyn nhw,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Os yw Llywodraeth Cymru yn troi eu cefn ar yr addewidion wnaethon nhw yn nhermau codiad cyflog, yna gallai hithau hefyd wynebu’r bygythiad o gerdded allan.

“Mae ein gwasanaeth iechyd eisoes dan bwysau, heb ddigon o adnoddau na staff.

“Fy mhle i Lywodraeth Cymru ydi i sicrhau nad yw ein gweithwyr iechyd a gofal yn parhau’n isel eu cyflog.”

Logo Gwasanaeth Iechyd Cymru

Y ‘George Cross’ i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Mae’n cael ei rhoi am ddewrder wrth achub bywydau, ond prin fod sefydliadau’n ei derbyn fel arfer