Mae Jonathan Bartley, cyd-arweinydd y Blaid Werdd, wedi cyhoeddi ei fod e’n camu o’r neilltu.
Bydd ei gyd-arweinydd Siân Berry yn arweinydd dros dro cyn bod y blaid yn cynnal etholiad i ddewis arweinydd parhaol newydd.
Mae Jonathan Bartley, sy’n 49 oed, yn dweud ei fod e’n “eithriadol o falch” o’r hyn mae’r blaid wedi’i gyflawni yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw, gan gynnwys dod yn “brif rym etholiadol” sy’n ceisio dod yn drydedd plaid fwyaf Prydain.
Fe fu’n gynghorydd yn Lambeth yn ne Llundain ers 2018.
“Dw i wedi credu erioed fod arweinyddiaeth yn ymwneud â grymuso ac annog eraill, ac mae hyn yn rywbeth dw i wedi’i wneud drwy gydol fy nghyfnod yn gyd-arweinydd,” meddai mewn datganiad.
“Dw i’n teimlo mai nawr yw’r amser i gamu o’r neilltu fel y gall arweinwyr newydd gael eu hethol.”
Fe fu’n gyd-arweinydd gyda Caroline Lucas am ddwy flynedd a Siân Berry am dair.
“Yn ystod y cyfnod hwn, mae cynifer o bobol dalentog wedi ymddangos,” meddai.
Teyrnged
“Mae Jonathan wedi bod yn gydweithwyr rhyfeddol,” meddai Siân Berry.
“Gweithiwr caled, meddylgar, caredig, colegaidd ac yn llawn mewnwelediad a syniadau.
“Dylai pob aelod gymeradwyo’r rhan enfawr mae e wedi’i chwarae yng nghynnydd y Blaid Werdd dros y bum mlynedd ddiwethaf.
“Mae ei ymadawiad yn gadael sawl pâr o esgidiau sylweddol i’w llenwi.”