Mae’r rheolau’n ymwneud ag ymweld ag ysbytai’n newid yng Nghymru o heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 5).
Yn ôl y drefn newydd, bydd gan fyrddau iechyd ddisgresiwn wrth benderfynu defnyddio profion llif unffordd neu brofion ar y safle er mwyn galluogi ymwelwyr i gael mynediad i ysbytai, gan gynnwys unedau mamolaeth.
Bydd y newid hefyd yn galluogi ymwelwyr i fynd i weld cleifion mewn unedau gofal dwys, sydd wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas Gofal Dwys Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r rheolau sydd wedi bod mewn grym hyd yn hyn er lles cleifion a staff, ond bydd byrddau iechyd bellach yn cael rhywfaint o ryddid i osod eu rheolau eu hunain.
Mewn datganiad, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod fod cyfnod y pandemig wedi bod yn “anodd” i gleifion a’u teuluoedd, ond fod diogelwch “wrth galon” eu canllawiau.
Partneriaid i gael mynd i apwyntiadau mamolaeth?
Wrth i’r canllawiau newydd gael eu cyflwyno, fe fydd y rheolau ar bartneriaid yn cael mynd i apwyntiadau mamolaeth yn amrwyio o un bwrdd iechyd i’r llall.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, fe fu hawl gan bartneriaid fynd i apwyntiadau mamolaeth sy’n debygol o achosi straen i’r ddarpar fam ers mis Medi y llynedd, ond does dim cyfyngiadau ar bartneriaid yn cael bod yno ar gyfer genedigaethau.
Gall un partner fod yn bresennol mewn apwyntiadau mamolaeth cynnar a sganiau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae modd cael partner yno ar gyfer genedigaethau a sefyllfaoedd brys yn ôl disgresiwn bydwragedd.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn caniatáu i bartneriaid fod yn bresennol ar gyfer sganiau ac apwyntiadau meddygol cyn genedigaeth ac yn ystod genedigaeth, ac mae adolygiad ar y gweill i ystyried a oes modd llacio ymhellach.
Gall partneriaid fynd i apwyntiadau ar gyfer sganiau ac asesiadau cyn genedigaeth, ond mae’n ddibynnol ar fesurau rheoli haint yr uned dan sylw, ac mae modd mynd i wardiau ar ôl genedigaeth am awr bob dydd ond mae’n rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Does dim modd i fenywod fynd â phartneriaid i sganiau 12 wythnos nac apwyntiadau cyffredin eraill, ond mae modd cael partner yn bresennol ar gyfer sganiau 20 wythnos os oes angen.
Yn ardal Powys, mae pob achos yn cael ystyriaeth unigol.
Yn ardal Bae Abertawe, mae modd i fenywod gael rhywun o’r un aelwyd yn bresennol ar gyfer sganiau 12 ac 20 wythnos a phan fo problemau’n codi cyn genedigaeth, ac mae’r canllawiau dan ystyriaeth ar hyn o bryd.