Reodd dros 300 o grwpiau ac unigolion yn rhan o ddigwyddiadau cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27).

Dydy’r Eisteddfod heb fod yn y ddinas ers 2011, ac mae gan drigolion y fro darged ariannol o £400,000 i’w godi, gyda’r Brifwyl yn cyrraedd ar Awst 2 y flwyddyn nesaf.

Un sy’n poeni am yr her fawr sydd o flaen Wrecsam yw Sara Louise Wheeler, colofnydd golwg360, gafodd ei geni a’i magu yn ardal Erddig.

Dywed fod yna dipyn o dlodi, digartrefedd a defnydd o fanciau bwyd yn Wrecsam, ond mae hi’n ffyddiog y bydd y trigolion lleol yno’n cofleidio ysbryd yr Eisteddfod ac yn ymdrechu i godi’r swm angenrheidiol o arian.

Mae ganddi bryderon hefyd fod angen gwybod union leoliad yr Eisteddfod cyn bod modd gwybod yn iawn beth fydd cost cynnal y Brifwyl.

“Mae sôn wedi bod y bydd yn ganol dre’, ond dw i’n meddwl bod angen iddi fod ar faes y tu allan i’r dre’,” meddai.

“Rydyn ni’n haeddu Steddfod draddodiadol mewn cae, ar faes, ac i bobol Wrecsam gael cyfle i weld beth ydi Steddfod go iawn.

“Yr her ydi gwneud y Steddfod yn berthnasol i bobol y ddinas, heb newid natur yr Eisteddfod.”

Aled Lewis Evans

Gorymdaith a seremoni

Ar ôl gorymdeithio tuag at Lwyn Isaf, daeth y dorf ynghyd i wylio’r seremoni, lle cymerodd Mererid Hopwood, yr Archdderwydd newydd, yr awenau’n swyddogol gan Myrddin ap Dafydd, gyda chyfnod hwnnw’n dod i ben.

Roedd y seremoni hefyd yn gyfle i Llinos Roberts, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, drosglwyddo’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd newydd. Bydd y gyfrol bellach ar werth mewn siopau ar draws y wlad.

Martha Grug a’r Testunau

Bydd Cymanfa Ganu yn cael ei chynnal yng Nghapel Bethlehem, Rhosllannerchrugog nos fory (nos Sul, Ebrill 28) am 6 o’r gloch, gydag elw’n mynd at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Bydd modd gwylio’r Gymanfa ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Awst 2-9, 2025.