Dydi’r dystiolaeth gan ddau dyst newydd posib ddim yn tanseilio’r euogfarn yn erbyn David Morris am lofruddio pedair aelod o’r un teulu yng Nghlydach 22 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd Mandy Power, 34, ei mam 80 oed Doris Dawson, a’i phlant Katie, 10, ac Emily, wyth oed, eu canfod yn farw yn eu cartref yng Nghlydach ger Abertawe ym mis Mehefin 1999 yn dilyn tân yn eu cartref.
Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach i’r pedair gael eu curo i farwolaeth â pholyn, cyn i’r tŷ gael ei roi ar dân.
Hwn oedd yr ymchwiliad mwyaf erioed i lofruddiaeth gan yr heddlu yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw ystyried dros 4,500 o ddatganiadau, 1,500 o negeseuon gan y cyhoedd, bron i 2,000 o ymweliadau â chartrefi tystion a thros 3,700 o eitemau o dystiolaeth.
Cafodd y cyn-adeiladwr David Morris ei garcharu am isafswm o 32 mlynedd ar ôl ei gael yn euog am yr eildro yn 2006 o’u llofruddio.
Fe wnaeth y Llys Apêl wyrdroi euogfarn flaenorol a chafodd ail achos llys ei drefnu.
Mae David Morris yn mynnu ei fod e’n ddieuog ers y cychwyn, a llynedd cwestiynodd rhaglen BBC Wales Investigates sicrwydd y cyhuddiad.
Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda dau dyst posib – un nad oedd erioed wedi siarad â’r heddlu, ac un arall oedd yn dweud ei fod e wedi cysylltu â’r heddlu ond nad oedd neb wedi’i ffonio’n ôl.
Ystyried materion fforensig
Yn ôl Heddlu’r De, maen nhw wedi siarad â’r ddau ddyn a chynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron, a ddywedodd na chafodd unrhyw wybodaeth sy’n tanseilio cyhuddiad David Morris ei rhoi iddyn nhw.
“Yn Ionawr 2021, fe wnaeth Heddlu’r De gyhoeddi asesiad ymchwiliol i elfennau a gafodd eu crybwyll gan gynrychiolwyr cyfreithiol David Morris,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Roedd y gwaith hwn yn cynnwys mynd at dystion newydd posib a gafodd eu hadnabod drwy raglen BBC Wales Investigates ar yr achos.
“Fel rhan o’r gwaith hyn, mae ditectifs wedi siarad â’r ddau dyst ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cynghori nad oes gwybodaeth wedi’i chynnig sy’n tanseilio euogfarn David Morris.
“Mae’r asesiad ymchwiliol, sy’n cael ei oruchwylio gan uwch swyddog ymchwilio, dirprwy, ac ymchwilydd fforensig o Heddlu Dyfnaint a Chernyw, nawr yn symud at ystyried y materion fforensig a gafodd eu herio yn rhaglen ddogfen y BBC.
“Wrth i’r gwaith barhau, mae ein meddyliau’n dal gyda’r teuluoedd a’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr achos, ac rydyn ni’n cydnabod yr effaith sylweddol arnyn nhw.”
Cafodd David Morris ei arestio ar ôl i’r heddlu amau Alison Lewis, cariad Mandy Power.
Flwyddyn ar ôl y marwolaethau, cafodd Alison Lewis, cyn-blismones, a’i chyn-ŵr, Stephen, a oedd hefyd yn blismon gyda Heddlu’r De, eu harestio ar amheuaeth o’u llofruddio.
Cafodd Stuart Lewis, brawd Stephen, a oedd hefyd yn blismon, ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd y tri eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.