Mae Janet Finch-Saunders, llefarydd Newid Hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am greu Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol i Gymru ac am weithredu ar frys i fynd i’r afael â llifogydd.

Daw ei galwadau’n dilyn adroddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch llifogydd Pentre fis Chwefror y llynedd yn ystod Storm Dennis.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod y llifogydd wedi’u hachosi gan “falurion coed” yn rhwystro dŵr rhag llifo trwy ddraen i ffos – a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru gafodd y bai.

Roedd y ffos hefyd yn cael ei rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac yn perthyn i Lywodraeth Cymru.

Er hynny, daeth adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad ei bod hi’n “annhebygol” mai eu gwaith nhw’n torri coed, a’r malurion yna’n llifo i’r ffos, “oedd prif achos y llifogydd”.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus tryloyw a diduedd i’r llifogydd, gan ddweud bod yr adroddiad gan Gyngor Rhondda Cynon Taf “yn codi mwy o gwestiynau nag o atebion”.

‘Gweithredu ar unwaith’

“Ni ddylai trigolion orfod aros deunaw mis i gael gwybod, yn swyddogol, beth achosodd i’w cartrefi fynd dan ddŵr,” meddai Janet Finch-Saunders, sy’n cynrychioli Aberconwy ym Mae Caerdydd.

“Bob nos pan mae hi’n bwrw’n drwm, mae pobol yn eistedd ar bigau’r drain yn disgwyl i weld a fydd y digwyddiadau ofnadwy hyn yn digwydd eto.

“Dyna pam fod angen Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol arnom i weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau bod y llanast sy’n cael ei achosi gan lifogydd yn cael ei glirio mor sydyn â phosib, a bod achos llifogydd yn cael ei adnabod mor sydyn â phosib.

“Mae’r adroddiad yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ar fai y llynedd, a phe bawn i’n Llywodraeth Cymru, byddwn i’n ymddiheuro’n gyhoeddus ac yn trefnu cymorth ariannol mawr ei angen ar gyfer y bobol leol gafodd eu heffeithio.”

Mae rhai o drigolion Pentre wedi galw am iawndal gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan fod eu hyswiriant wedi cynyddu, eu tai a’r strydoedd wedi’u difetha, a rhai wedi methu â chael ceiniog gan eu cwmnïau yswiriant gan eu bod nhw’n dweud ei bod hi’n drychineb naturiol.

Adroddiad llifogydd y Rhondda “yn codi mwy o gwestiynau nag atebion”

“Angen ymchwiliad cyhoeddus tryloyw a diduedd i roi hyder i drigolion Pentre, a thrigolion yr holl gymunedau a gafodd lifogydd”