Mae cynllun newydd yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd a fydd yn llunio dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Mae’r Cyngor Sir wedi ymrwymo i greu Sir Gaerfyrddin ddwyieithog ac amlieithog ac maen nhw’n gweithio ar eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Y nod yw fod pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn cael y cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg pan fyddan nhw yn gadael yr ysgol.
Oherwydd nod tymor hir Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i gynghorau sir Cymru greu’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i ddangos sut maen nhw am gyfrannu at yr achos.
Hefyd, mae’n rhaid i holl gyrff cyhoeddus y wlad weithio tuag at gyflawni’r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae un ohonyn nhw’n anelu at gael Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Un o’r nodau yng Nghwricwlwm newydd Cymru yw sicrhau bod plant a phobol ifanc yn ddysgwyr abl ‘sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg’.
Craffu ar y cynllun
Bydd y cynllun drafft ar gyfer addysg Gymraeg yn Sir Gâr yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg a Phlant y cyngor ddydd Iau, Gorffennaf 8 i’w drafod.
Yna, fe fydd cyfnod o wyth wythnos o ymgynghori er mwyn casglu sylwadau’r holl randdeiliaid.
Mae dros 80,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr – y nifer uchaf yng Nghymru.
“Mae gennym y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yma yn Sir Gaerfyrddin ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc i gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel ein bod yn creu cymunedau dwyieithog cynaliadwy a chryf,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant.
“Mae bod yn ddwyieithog yn dod â nifer o fanteision, er enghraifft mae pobl ddwyieithog yn dueddol o fod yn fwy creadigol a hyblyg, ac maent yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau a dysgu ieithoedd ychwanegol.
“Mae ymchwil yn dangos bod dwyieithrwydd hefyd yn gallu gohirio dechreuad Dementia a symptomau eraill clefyd Alzheimer.
“Mae ein cynllun drafft yn nodi ein prif nodau sy’n cynnwys gweithio gydag ysgolion i’w symud ar hyd y continwwm iaith, a pharhau i ddatblygu staff gan ddefnyddio rhaglen hyfforddiant hyblyg a chynhwysfawr.
“Un o’r prif dargedau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yw bod rhagor o blant dosbarth meithrin (3 oed) a phlant dosbarth derbyn (5 oed) yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r cynllun yn edrych ar y modd y gallwn gyflawni hyn.
“Mae cyflwyno addysg yn y blynyddoedd cynnar lle y mae’r disgyblion yn cael eu trochi yn y Gymraeg yn gallu sicrhau bod yr holl ddisgyblion eisoes yn ddwyieithog erbyn iddynt fod yn 7 oed, gan gyflwyno trydedd iaith erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen.
“Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr hydref er mwyn i athrawon, i rieni, i bobl ifanc ac i drigolion ddweud eu dweud am y cynllun drafft.”
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei roi gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor ac yna i’r Cyngor Llawn er mwyn cael penderfyniad terfynol, cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.