Mae’r gantores amryddawn a phoblogaidd EÄDYTH wedi dweud wrth golwg360 bod “angen i bobol ifanc deimlo fel bod dim y pwysau yna i siarad yr iaith yn hollol berffaith”.
Daw hyn ar ôl iddi gael ei gwrthod am swydd gyflwyno am nad yw hi “ddim yn ddigon rhugl”.
Dywedodd bod hi “ddim yn meddwl y bydda i byth yn teimlo fy mod i’n cael fy nerbyn fel 100% Cymraeg”.
Newydd gael fy ngwrthod am swydd gyflwyno Gymraeg oherwydd dydw i ddim yn ddigon rhugl…nice one! ????
Dim yn meddwl y bydda i byth yn teimlo fy mod i'n cael fy nerbyn fel 100% Cymraeg. Put down and a half
— EÄDYTH (@eadythofficial) July 1, 2021
Wrth rannu ei theimladau â golwg360, rhybuddiodd yn erbyn “gwthio pobol allan”, gan ddweud bod agweddau traddodiadol rhai pobol yng Nghymru tuag at yr iaith yn gallu effeithio hyder siaradwyr llai medrus.
“Dw i’n gwybod bod hynna ddim yn cynrychioli holl gyfryngau Cymru, ond pan dw i’n cael clywed mod i ddim ddigon rhugl, mae o’n setio fi’n ôl lot fawr,” meddai.
“Dw i wedi adeiladu gymaint o hyder o gwmpas yr iaith Gymraeg a dw i’n teimlo ei fod o wedi siapio identity fi.
“A dw i wedi bod yn cael shwt gymaint o gymorth hefyd gan y sîn Cymraeg a dw i’n gwerthfawrogi hynny lot lot fawr a dw i mor hapus mod i’n cael cymorth a chefnogaeth gan bobol dros Gymru.
“Ond pan ti’n cael rhywun yn dweud bod dy iaith di ddim digon da, mae o jyst yn setio ti’n ôl dw i’n meddwl.”
“Gadael i bobol ymuno mewn Cymru newydd”
Nid yw EÄDYTH yn credu fod cael Cymraeg “hollol berffaith” yn y cyfryngau yn gynrychioliad teilwng o’r Gymru yr ydym yn byw ynddo.
“Mae’r iaith wastad yn newid ac rydan ni angen symud at ddyfodol gwell ynglyn â’r iaith.
“Dw i’n gwerthfawrogi’r ffaith mod i’n gallu siarad Cymraeg fel yr ydw i.
“Mae pethau yn newid, ac mae angen i bobol ifanc deimlo fel bod yno ddim y pwysau yna i siarad yr iaith yn hollol berffaith.
“Dw i’n meddwl bod yno elfennau o Gymru sy’n rili traddodiadol ac sy’n anghofio am be sy’n mynd ymlaen rŵan a ddim yn edrych i’r dyfodol.
“A dw i’n meddwl bod lot o’r generation hyn yn trio gwthio i gael yr iaith yn berffaith.
“Ond y ffaith yw, rydan ni wedi mynd drwy amseroedd rili caled fel y Welsh Not ac ati, ac mae pethau wedi newid dros yr amseroedd a dros hanes Cymru… ond mae yno bobol sy’n trio dal ymlaen i fod yn fwy traddodiadol yn hytrach na trio symud yn y cyfeiriad cywir.
“Rhaid gadael i bobol ymuno mewn Cymru newydd dw i’n meddwl, a dw i rili yn gwthio i bobol cael siarad yr iaith sut bynnag maen nhw’n gyfforddus.
“Mae’n bwysig i bobol wybod bod hyd yn oed jyst gallu siarad ychydig bach o Gymraeg yn beth da, a dylsa ni fod yn gwerthfawrogi hynna lot yn fwy yn lle gwthio pobol allan gan ddweud ‘O dyda chi ddim ddigon da’, ‘dyda chi ddim yn gallu treiglo yn berffaith bob tro’.”
“Eisiau defnyddio’r iaith yn y ffordd dw i’n hapus i’w ddefnyddio”
“Mae o jyst yn anodd y dydi, mae pob ysgol dw i wedi bod i yn ysgolion Cymraeg, dw i erioed wedi bod mewn ysgol Saesneg,” meddai wedyn.
“Nes i symud i Gymru pan oeddwn i’n un… dw i wedi defnyddio pethau fel cystadlu yn yr Eisteddfod a gwneud gigs yn Maes B a Clwb (Ifor Bach) a’r Selar i sort of cael mewn i’r sîn Gymraeg.
“Ond dw i eisiau defnyddio’r iaith yn y ffordd dw i’n hapus i’w ddefnyddio fe.
“Sai’n gwybod beth arall dw i’n gallu ei wneud i ddysgu mwy am yr iaith.
“Dw i’n dysgu pob un dydd, dw i’n byw efo cariad fi sy’n siarad Cymraeg ac yn dod o Ogledd Cymru
“So dw i’n pigo fyny elfennau gwahanol o’r iaith o hyd, ond dw i’n caru hynna, dyna dw i’n ei garu am yr iaith.
“Dw i wedi symud shwt gymaint o amgylch Cymru dw i wedi dechrau defnyddio pob un tafodiaith o amgylch Cymru a dw i’n meddwl bod hynna mor cŵl.
“A dw i jyst ddim yn deall pam bod pobol yn yr hierarchy ‘ma ddim yn gwerthfawrogi hynna hefyd.”
-
Darllenwch gyfweliad diweddar Golwg gydag EÄDYTH isod.