Bydd y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, sy’n cael ei chynnal y penwythnos hwn (Gorffennaf 2-4), yn gyfle i ddathlu diwylliannau a chyrchfannau Celtaidd.
Roedd y Gyngres i fod i gael ei chynnal yn Aberystwyth y llynedd, ond cafodd ei gohirio yn sgil y pandemig.
Eleni, bydd yr arlwy’n symud ar-lein, a sylw yn cael ei roi i Lwybrau Celtaidd, prosiect sy’n hyrwyddo Ceredigion ac ardaloedd partner yn ne-orllewin Cymru ac Iwerddon.
Bob blwyddyn, mae’r wlad sy’n cynnal y Gyngres yn dewis thema’r gynhadledd.
Gyda Chymru’n ei chynnal eleni, bydd y canolbwynt ar sut gall Celtiaid lwyddo yn y byd busnes cyfoes, gan dynnu sylw at sawl busnes yng Nghymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.
Llwybrau Celtaidd
Mae Llwybrau Celtaidd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yn ogystal â siroedd Wexford a Wicklow a Dinas a Sir Waterford.
Un o brif amcanion y prosiect yw annog busnesau’r ardaloedd hyn i weithio gyda’i gilydd, a chymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu cynhyrchion a phrofiadau.
“Mae’n bleser croesawu’r Gyngres Geltaidd i Geredigion eleni, er yn rhithiol, a hefyd cyflwyno cynadleddwyr i Lwybrau Celtaidd,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio.
“Mae Ceredigion wedi agor ei drysau i ymwelwyr unwaith eto ond mae Covid-19 wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn fwy gofalus am deithio, gan gynnwys a ddylem ystyried dewisiadau amgen i’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd ymhlith twristiaid.
“Mae parchu ein tirweddau a’n cymunedau wrth wraidd brand Llwybrau Celtaidd.”
“Am antur y bydd ein cynhadledd rithiol yn mynd â ni arno, a bydd yn cael ei gweld am y tro cyntaf gan Geltiaid ledled y byd,” meddai Áine Ni Fhiannusa, Llywydd Rhyngwladol y Gyngres Geltaidd.