Mae un o brif swyddogion Hong Kong wedi nodi pen-blwydd dychwelyd y diriogaeth i reolaeth Tsieina drwy amddiffyn y gyfraith diogelwch cenedlaethol a ddaeth i rym flwyddyn yn ôl.
Dywed John Lee, Prif Ysgrifennydd Hong Kong, fod y gyfraith yn nodi bod hawliau dynol yn cael eu parchu ac y bydden nhw’n cael eu defnyddio ymhellach yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.
Yn ystod y flwyddyn ers i’r gyfraith ddod i rym, mae protestiadau ar raddfa fawr wedi’u gwahardd ac mae nifer o weithwyr a newyddiadurwyr o blaid democratiaeth wedi cael eu harestio, wedi rhoi’r gorau i weithgareddau cyhoeddus neu wedi gadael Hong Kong.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r awdurdodau wedi gwahardd coffáu Sgwâr Tiananmen a’r brotest drosglwyddo ym mis Gorffennaf.
Dywed yr heddlu fod galwadau ar-lein yn annog pobol i gymryd rhan mewn protest.
Cafodd y gyfraith ddiogelwch ei chyflwyno wrth i’r awdurdodau fynd i’r afael â phrotestiadau gwrth-lywodraeth enfawr yn 2019.
Torri addewid
Mae beirniaid y llywodraeth yn dweud bod Beijing wedi torri addewid i gadw’r breintiau arbennig ar gyfer Hong Kong am 50 mlynedd.
Am ddwy flynedd yn olynol, gwaharddodd yr awdurdodau seremoni cynnau canhwyllau blynyddol i goffáu’r ymgyrch yn 1989 yn erbyn protestwyr oedd o blaid democratiaeth yn Sgwâr Tiananmen yn Beijing, a’r brotest drosglwyddo ym mis Gorffennaf, oherwydd cyfyngiadau pellter cymdeithasol y pandemig.
Ddoe (dydd Mercher, Mehefin 30), cafodd Chow Hang-tung, un o drefnwyr y seremoni ym mis Mehefin, ei arestio ar amheuaeth o annog eraill i gymryd rhan mewn gwasanaeth heb awdurdod.
Mae’r heddlu wedi arestio saith newyddiadurwr a swyddog gweithredol o’r Apple Daily, papur newydd sydd o blaid democratiaeth ac a oedd yn feirniadol o lywodraethau Hong Kong a Tsieina.
Hefyd, mae awdurdodau’n rhewi asedau sy’n gysylltiedig ag Apple Daily, gan eu gorfodi i roi’r gorau i weithrediadau’r wythnos ddiwethaf.
Sefydlogrwydd wedi’i adfer?
Dywedodd John Lee fod Hong Kong yn adfer wrth i’r gyfraith diogelwch cenedlaethol adfer sefydlogrwydd cymdeithasol a gwleidyddol.
“Mae gan ein tîm fwy o hyder nag erioed yn rhagolygon Hong Kong,” meddai.
Ond hyd yn oed wrth i awdurdodau honni bod sefydlogrwydd cymdeithasol wedi dychwelyd i Hong Kong, mae rhai trigolion yn dewis gadael y ddinas o hyd.
Mae pobol sydd â phasbort Prydeinig, a gafodd ei roi i breswylwyr cyn trosglwyddiad 1997, bellach yn gymwys i symud i’r Deyrnas Unedig ar fisa arbennig.
Yn y dyddiau diwethaf, mae nifer fawr o deithwyr wedi penderfynu hedfan i’r Deyrnas Unedig.
Yn eu plith roedd Serena Leung, oedd wedi archebu tocynnau i hedfan i Brydain gyda’i dwy ferch pump a saith oed.
“Rwy’n credu bod sefyllfa hawliau dynol, rhyddid ac addysg y Deyrnas Unedig yn well na Hong Kong,” meddai’r ddynes 40 oed.
“Er nad yw’r Deyrnas Unedig yn wlad berffaith, mae gennym hyder o hyd y bydd yn goroesi ymhell dros y deng, ugain mlynedd nesaf.
“Ond does gen i ddim hyder yn Hong Kong, ni fydd ond yn gwaethygu.”