Mae crwner wedi cofnodi bod cyn-filwr wedi lladd ei hun ar ôl bod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Bu farw Lisa Brydon, 42, o ganlyniad i wenwyn carbon monocsid a chafwyd hyd i’w chorff yng Nghaerdydd ar Fehefin 9 y llynedd.

Reodd hi wedi treulio 13 o flynyddoedd yn y Fyddin, ac wedi gwasanaethau yn Irac ac Affganistan.

Ond aeth ei bywyd ar chwâl ar ôl iddi gael ei rhyddhau o ofal meddygon yn 2013, a bu’n dioddef o iselder a PTSD yn sgil digwyddiadau yn ei phlentyndod, ei phrofiadau yn y Fyddin yn ogystal â phroblemau’n ymwneud â’i pherthynas, arian a chyflogaeth.

Dywedodd ei chyn-bartner Lisa Sayers eu bod nhw wedi gwahanu fis Chwefror y llynedd ar ôl 18 mis gyda’i gilydd, ond eu bod nhw wedi byw yn yr un tŷ yn ystod wythnosau cynta’r cyfnod clo cyntaf rai misoedd yn ddiweddarach.

Bu’n rhaid i’w chyn-bartner ffonio’r heddlu sawl gwaith yn dilyn rhybuddion ganddi ei bod hi am ladd ei hun.

Roedd negeseuon ar ei ffôn yn dangos eu bod hi wedi dweud wrth ei theulu a’i ffrindiau na allai hi “frwydro yn erbyn y ci du hwn ragor” a’i bod hi eisiau “llonydd”, ac roedden nhw’n crybwyll diffyg cefnogaeth i bobol ag iselder yn ystod y cyfnod clo.

Clywodd y cwest gan ei chwaer, Tracy Curry, a ddywedodd fod Lisa Brydon wedi gweld pethau yn ystod ei chyfnod yn y Fyddin oedd wedi “cael effaith arni”, ond ei bod hi wedi mwynhau ei gwasanaeth milwrol serch hynny ond ei bod hi’n dioddef o iselder er pan oedd hi’n blentyn.

Dywedodd hi ei bod hi wedi gadael y Fyddin ac wedi mynd i weithio ym maes adnoddau dynol ond nad oedd hi wedi mwynhau’r gwaith a’i bod hi’n gweld eisiau’r Fyddin.

Dywedodd ymhellach iddi “gyrraedd y gwaelod” ar ôl i’w pherthynas ddod i ben, ei bod hi wedi cael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i PTSD a bod y cyfnod clo yn ormod o faich iddi.

Post-mortem

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Lisa Brydon wedi dioddef o “wenwyn carbon monocsid sylweddol” ac mai dyna oedd wedi achosi ei marwolaeth.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Nadim Bashir ei bod hi “wedi gwasanaethu ei gwlad â rhagoriaeth” ond fod iselder wedi cael effaith ar ei bywyd ar ôl iddi adael y Fyddin.

“Fel ateb olaf, ceisiodd hi gymryd ei bywyd ei hun ar Fehefin 4, 2020, ac roedd ei hail ymgais ar Fehefin 9 yn llwyddiannus, yn anffodus,” medda