Mae aelod o Sage, y pwyllgor sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch Covid-19, yn galw am ychwanegu at y rhestr o symptomau Covid-19.

Yn ôl yr Athro Calum Semple, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Lerpwl, dylai blinder dwys, pen tost, gwddw tost a dolur rhydd gael eu hychwanegu at y rhestr gan eu bod nhw’n gyffredin ymhlith pobol iau.

Byddai ychwanegu’r rhain yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddal y feirws yn gynnar, gan eu bod nhw’n gyffredin ymhlith pobol yn eu 20au a’u 30au.

“Wrth i bobol hŷn gael eu brechu, mae mwy o bobol iau o ran cyfran yn cael afiechyd ac mae ganddyn nhw grŵp gwahanol o symptomau,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Drwy ehangu’r rhestr o symptomau, rydym yn credu y byddwn ni’n dal traean yn fwy o achosion.

“Ond yn bwysicach, byddwn ni’n eu dal nhw ddiwrnod yn gynt ac mae hynny’n cynnig mwy o gyfle i dorri cadwyni ymlediad ac atal ymlediad pellach o’r feirws.”

Profion

Dywed ymhellach mai’r her yw sicrhau bod pobol yn cael y prawf “cywir” ar gyfer eu symptomau.

Ond mae’n annog unrhyw un sy’n teimlo’n sâl i gael prawf os oes ganddyn nhw symptoma’r feirws, sef tymheredd uchel, peswch parhaus neu newid yn y gallu i flasu neu arogli.

“Dydyn ni ddim eisiau gorlethu’r profion PCR,” meddai wedyn.

“Mae’n debyg ein bod ni am annog mwy o bobol i gael profion llif unffordd yn y gymuned, a chael prawf PCR wedyn fel cadarnhad.”