Flwyddyn ers dechrau protestiadau Hong Kong, mae’r arweinydd Carrie Lam wedi galw ar bob ochr i ddysgu gwersi o’r 12 mis diwethaf.

Ond dyw hi ddim wedi ymhelaethu ar ba wersi ddylai gael eu dysgu.

Mae heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 9) yn nodi blwyddyn ers y brotest gyntaf yn erbyn y ddeddf estraddodi yn Hong Kong.

Yn ôl y trefnwyr, roedd dros filiwn o bobol yn protestio, tra bod yr heddlu wedi amcangyfrif bod oddeutu 240,000 o bobol yn bresennol.

Yr orymdaith hon drwy ganol Hong Kong oedd dechrau’r mudiad o blaid democratiaeth, sydd wedi gweld protestwyr yn torri mewn i adeiladau deddfwriaethol a chymryd i’r strydoedd pob penwythnos, hyd yn oed ar ôl i’r ddeddf estraddodi gael ei dynnu’n ôl.

Byddai’r ddeddf wedi gadael i bobol Hong Kong, sydd â’i system gyfreithiol ei hun, gael eu hanfon i Tsieina i gael eu dedfrydu.

“Mae’n rhaid i bawb ddysgu eu gwers, gan gynnwys llywodraeth Hong Kong” meddai Carrie Lam.

“Ni all Hong Kong ymdopi â’r math yma o anrhefn, ac mae pobol Hong Kong eisiau awyrgylch sefydlog a heddychlon i allu byw a gweithio yma’n hapus.”

Blwyddyn o anhrefn

Ar adegau, mae’r protestwyr wedi gwrthdaro â’r heddlu, gyda’r protestwyr yn cyhuddo’r heddlu o ymddwyn yn dreisgar a chreulon.

Bu saib i’r protestio yn ystod pandemig y coronafeirws, ond wrth i nifer yr achosion ostwng, mae protestwyr wedi dychwelyd i’r strydoedd.

Maen nhw bellach yn protestio yn erbyn cyfraith diogelwch cenedlaethol i Hong Kong yn ogystal â chyfraith newydd sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wawdio anthem genedlaethol Tsieina.

Dywed y protestwyr fod y gyfraith diogelwch cenedlaethol yn mynd yn erbyn y fframwaith “un wlad, dwy system” gafodd ei chyflwyno wedi i Brydain ddychwelyd Hong Kong i Tsieina yn 1997.

Roedd y fframwaith yn addo rhyddid i’r ddinas nad oedd yn bodoli yn Tsieina.