Mae Comisiynydd Plant Lloegr yn dweud y dylai ysgolion Lloegr ddilyn esiampl Llywodraeth Cymru wrth ddychwelyd plant i’r ysgol yn dilyn y coronafeirws.

Bydd San Steffan yn cyhoeddi’n ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 9) na fydd ysgolion Lloegr yn ail agor cyn yr haf.

Mae cynllun Llywodraeth Prydain i blant allu dychwelyd i ysgolion cynradd yn Lloegr cyn yr haf yn debygol o fod ar stop am y tro, gyda disgwyl i’r Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson gyhoeddi heddiw,  Mehefin 9,  na fydd pob disgybl yn mynd yn ôl.

Y nod oedd i bob disgybl cynradd yn Lloegr dreulio pedair wythnos yn yr ysgol cyn gwyliau’r haf, ond dywed rhai ysgolion eu bod nhw eisoes yn llawn ac yn methu derbyn mwy o blant.

Ymateb y Comisiynydd

Dywed Anne Longfield, Comisiynydd Plant Lloegr, fod y newyddion na fyddai pob plentyn ysgol gynradd yn mynd yn ôl cyn yr haf yn “siom enfawr”.

“Rwy’n credu ei fod yn siom enfawr i’r plant hynny a oedd wedi disgwyl mynd yn ôl i’r ysgol cyn yr haf, o bosib ddim yn cael mynd erbyn hyn,” meddai.

Dywed y dylai Llywodraeth Prydain edrych ar yr hyn y mae Cymru’n ei wneud o ran ysgolion.

“Yn gyntaf oll, wrth edrych ar Gymru, maen nhw’n rhedeg model gwahanol iawn lle mae plant mewn gwirionedd yn dod i’r ysgol am draean o’r wythnos cyn yr haf, sy’n ddiddorol ac fe ddylai’r Llywodraeth edrych arno,” meddai.

Anymarferol

Yn ôl arweiniad yr Adran Addysg, dylai dosbarthiadau ysgolion gael eu cyfyngu i uchafswm o 15 disgybl, ond mae rhai ysgolion wedi derbyn llai o ddisgyblion na hyn yn ystod yr ail agoriad graddol gan eu bod yn cael eu cyfyngu gan feintiau ystafelloedd dosbarth, yr angen am ymbellháu cymdeithasol a niferoedd staff annigonol.

Mae adroddiadau y bydd ysgolion yn awr yn cael “hyblygrwydd” gan Lywodraeth Prydain ynghylch p’un a ddylen nhw dderbyn mwy o ddisgyblion ai peidio, ond dywed arweinwyr penaethiaid nad oedd hi erioed wedi bod yn bosibilrwydd ymarferol i agor ysgolion ymhellach.

“Bydd dychwelyd pob disgybl cyn diwedd y tymor hwn yn cyflwyno rhwystrau ymarferol na ellir eu datrys os ydym am gynnal rheolaeth” meddai Paul Whiteman, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb NASUWT.

“Os caiff ei gadarnhau yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach, rydym yn falch o weld na fydd y Llywodraeth yn gorfodi’r amhosib.

“Bydd ysgolion yn parhau i ddefnyddio eu hyblygrwydd yn ddeallus i ddarparu’r gorau i’r holl ddisgyblion yn eu hysgolion.”

Cynlluniau

Bydd Boris Johnson yn siarad â’i Gabinet cyn i Gavin Williamson gyflwyno datganiad i’r Senedd ynghylch ailagor ysgolion yn Lloegr yn ehangach.

Yng Nghymru, mae’r Llywodraeth yn bwriadu ailagor pob ysgol ar Fehefin 29, gyda thraean o blant ar y mwyaf yn yr ysgol ar unrhyw adeg.

Bydd disgyblion yr Alban yn dychwelyd ar Awst 11 ond byddan nhw’n treulio tua hanner eu hamser yn yr ysgol a’r hanner arall gartref.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n fwriad i bob plentyn ailgychwyn dosbarthiadau yn raddol ym mis Medi, ond gall ysgolion dderbyn disgyblion sy’n paratoi ar gyfer arholiadau yn nhrydedd wythnos Awst.

Ddydd Llun, Mehefin 8,  datgelodd Matt Hancock gynlluniau i ddisgyblion ac athrawon ledled Lloegr gael profion coronafeirws i fonitro lledaeniad y clefyd wrth i ddosbarthiadau ailgychwyn.

Gyda chymeradwyaeth rhieni a gwarcheidwaid, bydd plant yn cael eu profi i weld a oes ganddyn nhw Covid-19 neu wedi cael haint yn y gorffennol o dan y rhaglen wyliadwriaeth, a nod Matt Hancock yw cael hyd at 100 o ysgolion wedi’u profi ledled Lloegr erbyn diwedd tymor yr haf, gyda thua 200 o staff a phlant yn cymryd rhan ym mhob un o’r ysgolion hynny.