Mae David Melding, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, am weld cofeb i Iolo Morganwg yn lle Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Mae cerflun i’r masnachwr caethweision yn y Neuadd Farmor, ac mae Cyngor Caerdydd dn bwysau i’w symud oddi yno yn dilyn helynt y gofeb i Edward Colston ym Mryste a gafodd ei thynnu i lawr a’i thaflu i’r afon dros y penwythnos.

Ers hynny, mae galwadau ar i awdurdodau lleol dynnu cofgolofnau i ffigurau blaenllaw fu’n ymwneud â’r diwydiant masnachu caethweision ar hyd y blynyddoedd.

Yn eu plith yng Nghymru mae Syr Thomas Picton yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, a H.M. Stanley yn nhref Dinbych.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Daniel De’Ath, cynghorydd yng Nghaerdydd, ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r alwad i dynnu’r cofebion i lawr.

‘Dyn drwg’

Ar ei dudalen Twitter, mae David Melding, cyn-Lywydd y Cynulliad, yn awgrymu pwy hoffai ei weld yn cael ei goffáu yn lle Syr Thomas Picton a oedd, meddai, “yn ddyn drwg”.

“Roedd Syr Thomas Picton yn ddyn drwg ac yn gadfridog gwych,” meddai.

“Pe bai’n cael ei symud o’r Neuadd Farmor, beth am osod Iolo Morganwg, ei gyfoeswr radical?

“Dathlwch Iolo, Fardd Rhyddid!”