Mae Boris Johnson cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr ar 19 Gorffennaf, neu “diwrnod rhyddid” fel y mae’r Prif Weinidog yn hoff o gyfeirio ato.

Fodd bynnag, mae swyddogion yn cydnabod y bydd achosion a marwolaethau Covid-19 yn parhau i gynyddu – ond ar lefel llawer is na chyn y rhaglen frechu.

Yn ôl 10 Stryd Downing, mae angen dod o hyd i ffordd newydd o fyw gyda’r feirws.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Stryd Downing, fe wnaeth Boris Johnson gydnabod fod y pandemig “ymhell o fod drosodd” gydag achosion yn codi’n “weddol gyflym”.

“Gallai fod 50,000 o achosion wedi’u canfod bob dydd erbyn yr 19eg,” meddai.

“Rydym yn gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n mynd i’r ysbyty ac mae’n rhaid i ni dderbyn, yn anffodus, y bydd mwy o farwolaethau o Covid.

“O dan yr amgylchiadau hyn mae’n rhaid i ni wneud penderfyniad gofalus a chytbwys – a does dim ond un rheswm pam rydyn ni’n ystyried mynd ymlaen i Gam 4 mewn amgylchiadau lle byddem fel arfer yn cloi i lawr ymhellach, sef effeithiolrwydd parhaus cyflwyno’r brechlyn.”

O dan gynllun Prif Weinidog Prydain ar gyfer Lloegr:

– Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol, sy’n golygu diwedd y cyfyngiadau megis “rheol chwech” a chyfyngiadau ar westeion mewn priodasau a galarwyr mewn angladdau.

– Bydd gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn cael ei godi, er y bydd canllawiau’n awgrymu y gallai pobol ddewis gwneud hynny mewn “mannau caeëdig a gorlawn”.

– Bydd yr holl fusnesau sy’n weddill yn gallu ailagor, gan gynnwys clybiau nos, tra bydd capiau capasiti’n cael eu codi ac ni fydd bariau a bwytai yn cael eu cyfyngu i wasanaeth bwrdd mwyach.

– Ni fydd y Llywodraeth bellach yn cyfarwyddo pobol i weithio gartref.

– Bydd y rheol “un metr a mwy” ar ymbellhau cymdeithasol yn cael ei chodi ac eithrio mewn amgylchiadau penodol megis ar y ffin, lle bydd canllawiau’n parhau i gadw teithwyr o wledydd rhestr goch ac ambr rhag cymysgu â theithwyr eraill.

– Bydd cyfyngiadau ar y nifer o bobol gaiff ymweld â chartrefi gofal yn cael ei godi ond bydd mesurau rheoli haint yn parhau.

– Bydd y bwlch rhwng dosau brechlynnau i bobol ifanc dan 40 oed yn gostwng o 12 wythnos i wyth, sy’n golygu y bydd pob oedolyn yn cael cyfle i gael dau bigiad erbyn canol mis Medi.

Cymru sydd â’r gyfradd isaf

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â’r gyfradd isaf o’r haint o wledydd y Deyrnas Unedig: 101.2 fesul 100,000 o bobol, i fyny o 59.5 yr wythnos ddiwethaf, tra bod cyfradd Gogledd Iwerddon yn 114.1, i fyny o 63.5.

Cyfradd achosion newydd yr Alban ar hyn o bryd yw 405.8 fesul 100,000 o bobol, tra bod cyfradd Lloegr yn 223.2 – yr uchaf yn y wlad honno ers dechrau Chwefror.

Yn y cyfamser, mae cyfradd marwolaethau Covid-19 ym mhob un o’r pedair gwlad yn parhau’n isel, gyda 0.2 o farwolaethau i bob 100,000 o bobol yn Lloegr am yr wythnos hyd at 29 Mehefin, o’i gymharu â 14.5 ar anterth yr ail don.

Yn yr Alban, y gyfradd ar hyn o bryd yw 0.3, o’i gymharu ag uchafbwynt ail don o 8.2, ac mae Cymru a Gogledd Iwerddon wedi cofnodi cyfradd o ddim marwolaethau i bob 100,000 o bobl yn ddiweddar, o’i gymharu â 10.7 ac 8.4 yn y drefn honno pan oedd yr ail don ar ei hanterth.

Ddydd Llun (5 Gorffennaf) dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, bod Llywodraeth Cymru’n “gynyddol hyderus” – oherwydd y rhaglen frechu – na fydd y don hon o Covid-19 yn achosi’r un lefel o salwch difrifol.

Fodd bynnag, mynnodd y byddai Cymru’n ’dilyn y data’, yn hytrach na Lloegr – gallwch ddarllen mwy am hynny isod.

Llywodraeth Cymru’n “gynyddol hyderus” na fydd y don hon o Covid-19 yn achosi’r un lefel o salwch difrifol 

Fodd bynnag, fe wnaeth hi atgoffa pobol nad ydyn nhw’n “anorchfygol”, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn