Mae Jonathan Davies, capten tîm rygbi Cymru, yn dweud bod Cymru yn hollol ymwybodol o’r her sydd o’u blaenau wrth iddyn nhw herio’r Ariannin heddiw.

Dydy’r Pumas heb drechu Cymru ers 2012, tra bod Cymru’n fuddugol yn y pedair ornest ddiwethaf.

Er hynny, mae’r Archentwyr ar rediad gwych a’r llynedd fe drechon nhw Seland Newydd am y tro cyntaf, a chael dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstralia.

“Maen nhw’n hoffi gwthio’r gêm, chwarae gydag emosiwn, ac mae ganddyn nhw gêm gicio gref hefyd,” meddai Jonathan Davies am yr Ariannin.

“Felly i ni, mae’n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni’n tawelu’r bygythiadau hynny, bod yr un mor emosiynol, a sicrhau bod nhw ddim yn adeiladu momentwm.

“Y neges ar gyfer gemau’r haf hwn yw cystadlu ac ennill gemau, ond yn amlwg, adeiladu at 2023 [adeg Cwpan y Byd].”

“Gyda safon y gwrthwynebwyr, mae’n mynd i fod yn gêm anodd, rydyn ni’n deall hynny.

“Oll dw i’n ofyn o’r bechgyn yw gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol o’u dyletswyddau ac yn perfformio ddydd Sadwrn.”

‘Mwynhau’r her’

Mae tri newid yn y 15 sy’n cychwyn yn erbyn yr Ariannin o gymharu gyda’r 15 wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth o 68-12 dros Ganada.

Daw Hallam Amos i mewn fel cefnwr yn dilyn anaf Leigh Halfpenny i’w ben-glin, tra bod Owen Lane a Kieran Hardy hefyd yn cael eu dewis.

“Rydyn ni wedi gweithio ar yr elfennau roedden ni’n teimlo oedd angen gwella erbyn y penwythnos hwn,” meddai Jonathan Davies.

“Roedden ni’n bles i roi cyfleoedd i lawer o’r bechgyn ifanc i gael profiad o gemau prawf [yn erbyn Canada], ond rydyn ni’n ymwybodol o fygythiad yr Ariannin.

“Rydyn ni’n gwybod ei fod e’n mynd i fod yn gam i fyny’r wythnos hon, o ran y safon, mwy na thebyg, ac wythnos nesaf hefyd.

“Chwaraeon ni gyda thempo [yn erbyn Canada], a dw i’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n rhaid i ni ei wneud eto’r penwythnos hwn – rheoli cyflymder y gêm a mwynhau’r her.”

Bydd cic gyntaf y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin am un brynhawn Sadwrn (Gorffennaf 10) a’r ornest yn fyw ar S4C.